Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

270 PANT MAENOG

CYFEIRNOD GRID: SN081308
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 308.3

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Perthynai ardal gymeriad Pant Maenog i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Ym 1594, delid Maenclochog - fel maenorau eraill yng Nghemaes- ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac mewn Extent aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth, o fewn Mynydd Preseli, parhaodd yr ardal hon i gael ei dal o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn rhostir agored a allai fod wedi'i chynnwys mewn rhodd i Abaty Hendy-gwyn-ar-Dar, sef rhodd o hawliau pori ceffylau 'ar Breseli a'r lleoedd diffaith oddi amgylch am saith mlynedd, am un geiniog ac ar ôl hynny 2 swllt', gan David de la Roche, Arglwydd Llangwm a Maenclochog, ym 1301. Ymddengys ei bod wedi parhau'n dir agored, ac anghyfannedd gan mwyaf tan y 19eg ganrif. Atgynhyrchir cofnod Charles Hassall, ym 1794, o'r 'tir diffaith helaeth' a fodolai o hyd ym Maenclochog yn Hanes y Sir. Fodd bynnag, awgrymir bod rhywfaint o sgwatio yn digwydd ar y rhostir gan gyfres o gaeau bach tua'r gogledd o'r ardal hon, a chan ddwy gyn-fferm anghysbell. Amgaewyd llawer o ran ddeheuol yr ardal o fewn caeau mawr iawn rheolaidd eu siâp ym 1815 pan fu'n destun Dyfarniad Cau Tiroedd Seneddol, ond gadawyd yr holl ffermydd a bythynnod o fewn yr ardal, gan gynnwys y rhai a sefydlwyd ar ôl cael eu hamgáu ar orchymyn y Senedd, ar ôl hynny ac fe'u plannwyd yn ddiweddarach â choedwig o gonifferau. Digwyddodd hyn yn ail hanner yr 20fed ganrif, ar ôl i chwarel lechi Bellstone ym mhen deheuol y ardal gau. Dechreuodd y chwarel hon gynhyrchu c.1830 ac roedd ar ei hanterth rhwng 1870-1900. Mae elfennau ohoni yn gorwedd o dan y goedwig hefyd..

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Pant Maenog yn goedwig fawr o goed coniffer a blannwyd a leolir ar ochrau deheuol a de-orllewinol Mynydd Preseli rhwng 250m a 490m. Nid ymgymerwyd ag archwiliad daear manwl yn yr ardal hon, ac felly mae'n ansicr i ba raddau y mae cyn-ffiniau terfyn ac elfennau tirwedd eraill a fodolai cyn i'r goedwig gael ei phlannu wedi goroesi o dan y coed trwchus sy'n ei gorchuddio. Mae darnau o'r blanhigfa ar ei hochr orllewinol wedi'u cymynu a'u clirio. Erbyn hyn mae prif nodweddion tirwedd hanesyddol yr ardal hon yn cynnwys y blanhigfa a'r elfennau sy'n gysylltiedig â hi megis y ffyrdd a'r lonydd a ddefnyddid i gludo coed allan o'r goedwig. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd yn yr ardal hon.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i ddau grug crwn cofrestredig o'r oes efydd, safle melin wynt, o oedran anhysbys, a ddangosir ar fapiau o'r 19eg ganrif, a rhai nodweddion chwarel yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif o Bellstone.

Yn ffinio ag ardal gymeriad tirwedd hanesyddol planhigfa gonifferaidd Pant Maenog mae rhostir agored Mynydd Preseli neu dir ffermio amgaeëdig is Mynydd Bach a Mynydd-du. Felly mae'n ardal nodweddiadol ar wahân ac iddi ffiniau pendant.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro MF 207; Archifdy Sir Benfro HDX/1524/8; Howells 1977; Hunter 1852; Map a rhaniad degwm Maenclochog, 1841; Rees 1932; Richards 1998