|
267 RHOSFACH
CYFEIRNOD GRID: SN104280
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 312.3
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli,
o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel
Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley.
Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach
ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai
ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Roedd ardal gymeriad Rhosfach yn eiddo
i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes
gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd
ei fod yn werth ffi un marchog. Ym 1594, delid Maenclochog - fel maenorau
eraill yng Nghemaes- ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac mewn Extent
aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol
y Farwniaeth, o fewn Mynydd Preseli, parhaodd yr ardal hon i gael ei dal
o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Mae'r ardal gymeriad wedi'i hamgáu
erbyn hyn ond yn ystod y cyfnod canoloesol, mae'n debyg bod yr ardal gyfan
yn rhostir pori agored. Ym 1301, rhoddodd David de la Roche i fynachod
Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf yr hawl i bori ceffylau 'ar Breseli a'r lleoedd
diffaith oddi amgylch am saith mlynedd, am un geiniog ac ar ôl hynny 2
swllt'. Gallai rhywfaint o'r tir hwn fod wedi'i leoli yn ardal Rhosfach,
sy'n cynnwys pedair ardal ar wahân o dir comin. Yr ardaloedd hyn yw'r
cyfan sydd ar ôl o ardal o dir comin mwy o faint y mae Hanes y Sir yn
cofnodi i'w hawliau torri mawn gael eu hawlio ym 1724. Ceir Hafod yn enw
ar fferm tua'r gorllewin hefyd. Cofnodwyd ffermydd Pengawsai a Meini-hirion,
a leolir o fewn system o gaeau bach ym mhen deheuol pellaf yr ardal yn
yr 16eg ganrif. Parhaodd gweddill yr ardal gymeriad hon yn ôl pob tebyg
i fod yn dir agored tan ddyddiad diweddar. Mae'r mwyafrif o'r caeau yn
fawr, ac iddynt ffiniau syth, tra na chofnodir enwau'r mwyafrif o'r ffermydd
cyn y 18fed ganrif, rhywbeth a gadarnheir gan y tarddiad beiblaidd sydd
i rai ohonynt ee. Pisgah a Phen-Nebo. Dengys y mapiau degwm, o'r 1840au,
gaeau tebyg i leiniau mewn rhai lleoliadau, sy'n awgrymu bod o leiaf ran
o'r ardal hon wedi datblygu o system isranedig o leini, a heddiw mae rhai
o'r caeau hyn yn dal i fod yn hir ac yn gul. Felly ymddengys fod yr ardal
gymeriad hon yn gymysgedd o hen ffermydd sefydlog, a rhywfaint o anheddu
gan sgwatwyr o bosibl, a lleiniau mawr o dir comin a aneddwyd ac a amgaewyd
ar ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn hyn mae'r tiroedd comin wedi'u henwi
ar ôl yr aneddiadau yn Llangolman, Llandeilo Llwydarth, Maenclochog a
Rhosfach, ond nid yw hyn yn adlewyrchu dosbarthiad hawliau pori cynharach.
Dangosir y gydberthynas rhwng y tir amgaeëdig a'r daranau hyn o dir comin
sydd ar ôl yn glir iawn ar fap ystad Tymawr yn dyddio o 1777, sydd fel
arall yn dangos patrwm tebyg i'r un a welir heddiw. Lleolir tair chwarel
lechi a enwyd ym mhen gorllewinol yr ardal hon. Gweithrediadau byrhoedlog
ar raddfa weddol fach o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif
oedd pob un o'r chwareli hyn. Lleolir lefel ddienw yng
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rhosfach ar lethrau deheuol
Mynydd Preseli. Mae'r llethrau hyn sy'n wynebu'r de ac sydd â rhediad
graddol yn gorwedd rhwng 270m a 200m o uchder. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal
yn dir ffermio amgaeëdig, ond ceir darnau o dir agored - sef Comin Llangolman,
Comin Llandeilo, Comin Maenglochog a Chomin Rhosfach. Nodweddir y patrwm
amgáu gan gaeau bach afreolaidd eu siâp, ond ceir rhai caeau hir siâp
llain yn rhan ddwyreiniol yr ardal. At ei gilydd rhennir y caeau gan gloddiau
o gerrig a phridd ac arnynt wrychoedd. Ar wahân i'r gwrychoedd hynny a
geir o bob tu i ffyrdd a llwybrau mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael iawn
- naill ai maent wedi diflannu neu ceir rhesi di-drefn o lwyni a choed
bach. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cloddiau i ddal gwartheg. Cymysgedd
o dir pori wedi'i wella, tir pori heb ei wella a thir pori garw yn cynnwys
brwyn, eithin a choetir prysglog ar y tir comin yw'r defnydd a wneir o'r
tir. Ar wahân i'r coed bach yn y gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt a'r
coetir prysglog, nid yw coetir yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd hanesyddol.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae'r
anheddau at ei gilydd yn dyddio o'r 19fed ganrif, maent yn yr arddull
frodorol ac wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro a/neu â cherrig moel).
Mae ganddynt dri bae, un llawr a hanner a dau lawr, a thoeau llechi. Mae'n
debyg bod y rendrad sment ar rai o'r anheddau yn cuddio adeiladwaith pridd
(clom). Mae'r bythynnod unllawr yn elfen nodedig o'r dirwedd hon. Mae
ychydig o dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau
a defnyddiau. At ei gilydd mae'r adeiladau amaethyddol yn fach, sy'n adlewyrchu
maint y daliadau. Maent yn cynnwys rhesi bach unigol a adeiladwyd o gerrig
yn y 19eg ganrif; ysguboriau a strwythurau eraill o haearn rhychog o ganol
yr 20fed ganrif; a strwythurau bach a adeiladwyd o ddur, concrid ac asbestos
ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr
ardal hon. Mae'r llwybrau trafnidiaeth yn cynnwys lonydd a llwybrau troellog
cul sydd â gwrychoedd uchel ar bobtu iddynt.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn eithaf amrywiol ac mae'n cynnwys
beddrod siambrog bosibl o'r oes neolithig, amlosgiad o'r oes efydd, crug
crwn cofrestredig a dau grug posibl arall, ac un maen hir pendant a thri
maen hir posibl. Mae bryngaer gofrestredig o'r oes haearn (neu fwnt canoloesol),
a bryngaer bosibl arall. O'r cyfnod canoloesol mae safle melin, ac o'r
cyfnod ôl-ganoloesol bedair chwarel gan gynnwys y chwareli Mill, Galchen
a Vagur, a gwersyll milwrol yn dyddio o'r ail ryfel byd gerllaw Maenclochog.
Mae i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant
iawn. Yn ffinio â hi i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin ceir ardal
o dir a amgaewyd trwy ddeddf Seneddol - sef Mynydd Bach - ac i'r de gan
ffermydd a chaeau mwy o faint Llangolman.
Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/EE/7/338; Charles 1992;
Howells 1977; Howells, 1987; Hunter, 1852; Map a rhaniad degwm Llandeilo
Llwydarth, 1841; Map a rhaniad degwm Llangolman, 1841; Rees 1932; Richards
1998
|