Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

266 LLANGOLMAN

CYFEIRNOD GRID: SN125264
ARWYNEBEDD GRID: 1461

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr ar gwr deheuol Mynydd Preseli. Mae'r rhan fwyaf ohoni o fewn ffiniau modern Sir Benfro, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Dengys y ffaith i un o saith 'esgopty' Dyfed cyn y Goresgyniad gael ei sefydlu yn Llandeilo Llwydaeth, y ceir sôn amdano yn Liber Landavensis o'r 12fed ganrif, fod yr ardal gymeriad yn ganolfan eglwysig bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae dwy Heneb Gristnogol Gynnar o'r eglwys hon bellach yn Eglwys Maenclochog. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Roedd y rhan fwyaf o ardal gymeriad Llangolman yn eiddo i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Erbyn 1594, roedd gan Faenclochog ei phentreflys ei hun ac - fel maenorau eraill yng Nghemaes - fe'i delid ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac mewn Extent aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth, o fewn Mynydd Preseli, parhaodd yr ardal hon i gael ei dal o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Serch hynny aildrefnwyd y fframwaith eglwysig yn ôl llinellau Eingl-Normanaidd ac atodwyd Llandeilo Llwydarth ynghyd â'r capel yn Llangolman i'r dwyrain i ficerdy Maenclochog, a roddwyd yn ei dro i Abaty Llandudoch gan David de la Roche c.1320. Ym mhen dwyreiniol pellaf yr ardal mae eglwys plwyf Mynachlog-ddu a oedd yn rhan o rodd lawer cynharach i Landudoch, ym 1118, fel rhan o faenor Nigra Grangia a roddwyd gan William Fitzmartin, ac a ddelid, ar ôl y Diddymiad, ar wahân i Farwniaeth Cemaes. Mae'n bosibl bod capel y faenor, sef 'St Julian's' neu 'St Giles' (cys. St Silin) wedi sefyll yn yr ardal hon hefyd. Erbyn diwedd y 15fed ganrif, roedd cryn dipyn o diroedd o fewn ardal gymeriad Llangolman wedi'u casglu o faenor Maenclochog gan deulu lleol o iwmyn, sef y teulu Llywelyn, ond ym 1498 rhoddodd y teulu 'eu holl diroedd yn Llangolman ac ym Mwlch-y-clawdd (Temple Druid) ym Maenclochog', a ddelid yn ôl system dirddaliadaeth Gymreig, i Lewis ap David ap Gruffudd Fychan o Langolman, iwmon, 'oherwydd angen a thlodi mawr'. Mae'r patrwm o aneddiadau gwasgaredig yn nodweddiadol o systemau tirddaliadaeth brodorol, ac ymddengys na ddatblygodd y dreflan a gofnodwyd yn Llandeilo Llwydarth yn anheddiad cnewyllol erioed, tra bod y patrwm amgáu lle y ceir caeau rheolaidd eu siâp o faint canolig yn nodweddiadol o batrwm amgáu o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, o dan ffermydd megis Pencraig-fawr a Phlas-cwrt a gofnodwyd yn yr 16eg ganrif, tra cofnodwyd parc ceirw yn 'Loydarth' hefyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Roedd y broses amgáu wedi'i chwblhau erbyn diwedd y 18fed ganrif. Fodd bynnag, er y dengys map ystad Tþ Mawr yn dyddio o 1777 y rhan fwyaf o'r daliad fel y mae heddiw, dangosir rhai lleiniau agored wedi'u gwasgaru o fewn daliadau ffermydd eraill hefyd, sy'n awgrymu bod y dirwedd hon wedi datblygu o system o lain-gaeau isranedig, yn yr achos hwn lleini a ddelid yn ôl pob tebyg o dan dirddaliadaeth Gymrieg. Roedd plastai eraill yn dyddio o'r 18fed ganrif ym Mhlas-y-Meibion, a Temple Druid a ailadeiladwyd gan John Nash. Mae rhan fach o'r ardal gymeriad i'r de-ddwyrain yn gorwedd yn Sir Gaerfyrddin, ac yn ystod yr oesoedd canol roedd yn eiddo i Lwyn-yr-ebol, sef un o faenorau Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf a roddwyd i'r Sistersiaid gan Maelgwn ap Rhys, mab Rhys ap Gruffudd, rhwng 1197 a 1231. Mae'n cynrychioli yn ôl pob tebyg gomin mynachaidd a amgaewyd yn gynnar, unwaith eto yn dyddio o'r 16fed ganrif a'r 17eg ganrif yn ôl pob tebyg. Bu i amaethyddiaeth le blaenllaw yn hanes yr ardal gymeriad ac felly y mae o hyd, er ei bod yn cynnwys y crynodiad dwysaf o chwareli llechi yn Sir Benfro. Mae cyfanswm o 13 o chwareli a enwyd, a nifer o lefelydd mwy anffurfiol eraill, yn ymestyn mewn llinell o'r dwyrain i'r gorllewin fwy neu lai ar draws y llechfaen a ddatguddir yn y lludw folcanig trwy ganol yr ardal. Roedd y mwyafrif o'r chwareli hyn yn eithaf diweddar, ac fe'u sefydlwyd o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Mae pob un erbyn hyn yn segur ond ymestynnai'r rhai mwyaf yn eu plith - er enghraifft, Dandderwen ('Whitland Abbey Slate') a Lily - dros ardal sylweddol a chyflogwyd cannoedd ar gannoedd ganddynt. Elfen ychwanegol yw capel cynnar y Bedyddwyr yn Rhydwilym, a sefydlwyd ym 1668 trwy roddion gan deuluoedd o uchelwyr lleol ac, o'r cychwyn cyntaf, roedd ganddo ddylanwad eithriadol dros ardal eang.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Llangolman yn ardal tirwedd hanesyddol fawr sy'n gorwedd dros nifer o blwyfi ac sy'n cwmpasu rhan uchaf Cleddau Wen a'i hisafonydd. Yn y fan hon mae llawr y dyffryn yn gorwedd ar uchder o ryw 60m i 80m, ond mae ochrau'r dyffryn yn codi'n serth i dros 130m o uchder cyn troi'n dir gwastad tonnog rhwng 130m a 200m o uchder. Mae'r ardal hon yn cynnwys llawr y dyffryn, ochrau'r dyffryn a'r tir uwch uwchben. Gorchuddir ochrau'r dyffryn â choetir trwchus - sef cymysgedd o goedwigoedd collddail lled-naturiol a phlanhigfeydd conifferaidd yn dyddio o'r 20fed ganrif. Mae gweddill yr ardal wedi'i hamgáu yn gaeau bach afreolaidd eu siâp. Nodweddir ffiniau yn bennaf gan gloddiau ar arnynt wrychoedd, ond ceir cloddiau o gerrig a phridd a chloddiau â wynebau o gerrig hefyd. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio. Mae'r mwyafrif mewn cyflwr da, ond mae rhai wedi tyfu'n wyllt ac maent wedi'u hesgeuluso ac mae bylchau yn dechrau ymddangos ynddynt. Mewn rhai achosion mae'r gwrychoedd wedi diflannu yn llwyr. Tir pori wedi'i wella yw bron y cyfan o'r tir amaeth ac nid oes fawr ddim tir pori mwy garw na thir âr. Mae nifer o goedwigoedd collddail bach ar wahân, coed mewn cloddiau sydd wedi tyfu'n wyllt a'r coetir trwchus ar ochrau'r dyffryn a grybwyllwyd uchod yn rhoi golwg goediog iawn i rannau o'r dirwedd hon, er bod coed yn brin ar y tir uwch ar wahân i'r rhai a geir mewn gwrychoedd. Nodweddir y patrwm anheddu yn bennaf gan ffermydd, tai a bythynnod gwasgaredig, a darperir yr unig ganolbwyntiau gan bentrefannau Llangolman a Rhydwilym. Mae'r ffermdai yn dyddio o'r 19eg ganrif yn bennaf. Maent wedi'u hadeiladu o gerrig yn yr arddull frodorol, (wedi'u rendro â sment neu â cherrig moel), ac iddynt dri bae, dau lawr, a thoeau llechi. Ceir tai a bythynnod mewn arddull debyg ond sydd ag un llawr a llawr a hanner hefyd yn ogystal ag enghreifftiau o dai yn yr arddull Sioraidd boneddigaidd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'n debyg bod y rendrad sment ar rai tai a bythynnod hþn yn cuddio adeiladwaith pridd (clom). Mae tai yn perthyn i'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal, ond nid ydynt yn gyffredin. Hefyd yn yr ardal hon mae bwthyn bach to gwellt Penrhos sydd bellach yn amgueddfa o eiddo'r Cyngor Sir ac sydd wedi'i ddodrefnu mewn arddull yn perthyn i'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau amaethyddol at ei gilydd yn fach, sy'n adlewyrchu maint y daliadau, ac maent yn cynnwys rhes fach wedi'i hadeiladu o gerrig yn dyddio o'r 19eg ganrif; ysguboriau a strwythurau eraill o haearn rhychog o ganol yr 20fed ganrif; a strwythurau bach wedi'u hadeiladu o ddur, concrid ac asbestos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Fodd bynnag, mae gan y nifer fach o ffermydd mwy o faint gasgliad o dai allan a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif sydd wedi'u gosod o amgylch iard neu mewn trefniant lled-ffurfiol arall â'r tþ yn ogystal ag adeiladau amaethyddol modern sylweddol. O fewn yr ardal hon mae safleoedd tair eglwys ganoloesol Mynachlog-ddu, Llangolman a Llandeilo Llwydarth, capel mawr yn Rhydwilym, a sefydlwyd ym 1688, a Chapel Llandeilo. Crybwyllwyd Pont Mynachlog-ddu gan George Owen c. 1600. Mae saith adeilad rhestredig yn yr ardal. Mae eglwysi Llangolman a Mynachlog-ddu (a grybwyllwyd uchod) yn rhestredig, ond dim ond yn yr ail y mae unrhyw adeiladwaith canoloesol wedi goroesi. Mae olion prin yr eglwys ganoloesol yn Llandeilo Llwydarth yn Heneb Gofrestredig ac yn rhestredig Gradd II. Mae Temple Druid, plasty yn dyddio o'r 18fed ganrif a godwyd gan John Nash ar safle yn dyddio o'r 15fed ganrif, yn rhestredig Gradd II, tra bod yr iard, yr adeiladau allan a'r bythynnod yn rhestredig Gradd II*. Mae Rhosfach House, Llangolman, a'r blwch ffôn y tu allan, yn rhestredig Gradd II. Mae chwareli a adawyd yn un o nodweddion y dirwedd. Mae parc carafanau bach a chlwb gwlad ym Mhlasty Trefach ar gwr dwyreiniol pellaf yr ardal hon. Ar wahân i'r A478 sy'n croesi cwr dwyreiniol pellaf yr ardal hon, cyfyngir elfennau trafnidiaeth y dirwedd hanesyddol i lonydd troellog cul a llwybrau sydd â gwrychoedd mawr yn rhedeg ar hyd eu hymylon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol. O'r cyfnod neolithig, mae'n cynnwys beddrod siambrog gofrestredig (neu faen hir?), beddrod siambrog bosibl arall a meingylch posibl (neu glostir vallum?). O'r oes efydd mae maen hir cofrestredig, crug crwn, tri maen hir posibl a dau grug crwn posibl, a thomen losgedig bosibl. Mae bryngaer gofrestredig yn dyddio o'r oes haearn a bryngaer bosibl arall. Darganfuwyd arteffactau Rhufeinig. Mae nodweddion o ddechrau'r cyfnod canoloesol yn cynnwys y ddwy Heneb Gristnogol Gynnar o Landeilo Llwydarth (sydd bellach yn Eglwys Maenclochog) a charreg arysgrifedig o Gelli Dywyll. Mae dwy ffynnon sanctaidd, ac yn gysylltiedig â'r un yn Llandeilo Llwydarth mae traddodiad y câi'r dðr ei yfed o benglog Teilo Sant. Mae system ganoloesol bosibl o lain-gaeau a nifer o safleoedd melinau, yn ogystal â safleoedd yr eglwysi a'r capeli. Mae archeoleg ôl-ganoloesol yn cynnwys cyfoeth o nodweddion sy'n gysylltiedig â'r chwareli gan gynnwys adeiladau, pwll llifio a bateri chwiloleuadau ar Gomin Llangolman sy'n dyddio o'r ail ryfel byd.

Mae gan ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llangolman ffin bendant i'r gogledd lle y mae'n ffinio ag ardaloedd Rhosfach a Mynachlog-ddu ac i'r dwyrain yn erbyn Glandy Cross. I'r de mae'r ffin yn llai pendant, er bod yr ardal i'r de yn cynnwys ffermydd mwy o faint a chaeau mwy o faint na'r rhai yn ardal gymeriad Llangolman. Nid oes ffin bendant, yn hytrach ceir ardal gyfnewid sy'n ymestyn am un neu ddau gilomedr efallai.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/EE/338; Charles 1992; Davies 1982; Howells 1977; Howells 1987; Lewis 1969; Lewis 1975; Ludlow 1998; Map a rhaniad degwm Llandeilo Llwydarth, 1841; Map a rhaniad degwm Llandisilio, 1840; Map a rhaniad degwm Llangolman, 1841; Map a rhaniad degwm Llanycefn, 1847; Owen 1897; Richard 1935; Richards 1998; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997