Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

265 GLANDY CROSS

CYFEIRNOD GRID: SN147267
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 575.3

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin ar gwr de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn cwmwd Amgoed, cwmwd o Gantref Gwarthaf a aildrefnasid yn Arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd Sanclêr erbyn 1130. Fodd bynnag, parhaodd yr ardal i gael ei dal o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth trwy'r cyfnod canoloesol ac i mewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol, ac erbyn diwedd yr oesoedd canol roedd wedi'i rhannu'n dri bloc o ddaliadau gwasgaredig a elwid yn Trayn Morgan, Trayn Clinton, a Trayn March. Mae ardal gymeriad Glandy Cross yn cynnwys darnau o'r ddau ddaliad cyntaf. Roedd llawer o ardal gymeriad Glandy Cross yn eiddo i Lwyn-yr-ebol, sef un o faenorau Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf a roddwyd i'r Sistersiaid gan Maelgwn ap Rhys, mab Rhys ap Gruffudd, rhwng 1197 a 1231. Mae'n annhebyg bod yr ardal wedi'i hamgáu yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae prydlesi yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg o'r ystadau hynny a fu'n eiddo i Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf yn Sir Gaerfyrddin yn nodi'n glir bod tenantiaid yn arfer yr hawl i bori tir comin ac mae'r ffaith bod arian y mynydd, sef taliad am hawliau pori, gydag amrywiaeth o renti, mewn arian, cynnyrch a gwasanaeth, wedi goroesi yn awgrymu eu bod yn cyfateb i rwymedigaethau bileiniaid cynharach, pan oedd y mwyafrif o'r tentantiaid hefyd dan rwymediaeth i wneud dawnwaith i'r abaty. Mae hanes tirwedd yr ardal hon yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn gymhleth. Dengys disgrifiad gan Edward Lhuyd yn argraffiad Gibson o Britania Camden o gylch cerrig Meini Gwyr yng Nglandy Cross ar ddiwedd yr 17eg ganrif fod y dirwedd yn dal i fod yn rhostir agored. Ymddengys i'r ardal gael ei hamgáu i raddau helaeth rhwng diwedd yr 17eg ganrif a dechrau'r 19eg ganrif pan sefydlwyd ffermydd ac adeiladau eraill. Fodd bynnag, ni chwblhawyd y gwaith o amgáu'r tir yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal gymeriad tan ar ôl arolygon degwm y 1840au; dengys map ystad o Gastell Garw yn dyddio o 1751 batrwm caeau tebyg i'r un a welir heddiw i'r dwyrain o ffordd yr A478, ond mae'n awgrymu bod yna dir agored i'r gorllewin. Ar fapiau degwm, dangosir caeau gerllaw croesffordd Glandy Cross fwy neu lai fel y maent heddiw, ond yn wahanol i gaeau mewn mannau eraill yn y plwyf nis enwir, sydd fel arfer yn awgrymu iddynt gael eu creu yn ddiweddar. Mewn cyferbyniad, dengys astudiaeth o'r system gaeau rhwng Efailwen a Glandy Cross ei bod yn rhagflaenu'r darn hir, syth o ffordd yr A478. Nodir y ffordd ar fap Rees fel llwybr canoloesol ond sefydlwyd ei llwybr presennol rhwng 1791 a 1809 pan gafodd ei throi'n ffordd dyrpeg o dan Ymddiriedolaeth Tyrpeg Hendy-gwyn-ar-Daf. Dangosir llwybr y ffordd bresennol ar frasluniau mapiau Arolwg Ordnans yn dyddio o 1809, lle na ddangosir unrhyw aneddiadau rhwng Efailwen a Glandy Cross, ond erbyn arolygon degwm y 1840au adeilasid Maen-Gwyn, Llain, Capel Nebo a nifer o fythynnod. Mae Efailwen yn nodedig yn hanes 'gweithredu uniongyrchol' gan y Cymru am mai yn y fan hyn y cafwyd yr ymosodiad cyntaf ar dolldy ffordd dyrpeg gyd'r nos ar Fai 18 1839. Adeiladwyd y bythynnod yn Goodwin's Row ar hyd yr A478 ym 1866 i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr chwareli. Ar ôl adeiladu Goodwin's Row, ychydig iawn o adeiladau newydd a godwyd tan chwarter olaf yr 20fed ganrif pan adeiladwyd datblygiadau hirgul o dai bob yn dipyn a datblygiadau eraill ar y ffyrdd a gwrddai yng Nglandy Cross ac ar y ffyrdd a gwrddai yn Efailwen. Mae gwaith datblygu yn parhau yn y ddau leoliad hwn.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Glandy Cross yn gorwedd ar draws esgair lyfngrwn isel. Mae crib copa'r esgair hon yn codi o uchder o ryw 200m yn ei phen deheuol yn Efailwen i uchder o dros 250m yn ei phen gogleddol yn Iet-y-Bwlch. Er bod llethrau'r esgair yn graddol ddisgyn i ddyffryn Cleddau Ddu i'r gorllewin a dyffryn Afon Taf i'r dwyrain, mae'r ardal hon yn ymestyn dros gopa'r esgair yn unig, i lawr hyd at bwynt isel o 190m. Mae'r esgair gyfan wedi'i hamgáu yn gaeau rheolaidd eu siâp o faint bach i ganolig, Mae'r caeau llai o faint wedi'u canoli tua'r de a chyfyngir y caeau mwy o faint i dir uwch i'r gogledd. Nodweddir ffiniau gan gloddiau sy'n cynnwys mwy a mwy o gerrig tua'r gogledd. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau hyn mewn cyflwr da yn ymyl ffyrdd a lonydd ac yn rhan ddeheuol yr ardal, ond maent yn fwyfwy anniben a diffaith tua'r tir uwch. Yn y mannau uchaf nid oes unrhyw wrychoedd bellach. Mae ffensys gwifrau ar y cloddiau terfyn yn darparu ffiniau i ddal gwartheg. Ar wahân i goed bach sy'n tyfu allan o wrychoedd wedi'u hesgeuluso a chwpl o blanhigfeydd conifferaidd bach yn dyddio o'r 20fed ganrif, ni nodweddir y dirwedd hon gan goetir. Tir pori wedi'i wella ac ychydig o dir pori yw'r tir amaeth at ei gilydd er y ceir darnau o dir pori heb ei wella a thir brwynog. Nodweddir yr hen batrwm anheddu sefydlog gan ffermydd, tai a bythynnod gwasgaredig wedi'u canoli ar ben deheuol yr ardal ac ar ochrau'r esgair. Mae'r anheddau bron i gyd yn dyddio o'r 19eg ganrif. Maent yn yr arddull brodorol, ac at ei gilydd maent o gerrrig ac iddynt doeau llechi, un llawr, llawr a hanner neu ddau lawr, a thri bae, wedi'u rendro â sment a/neu â cherrig moel. Hefyd ceir enghreifftiau o fythynnod unllawr a adeiladwyd o gerrig a phridd (clom) ar ddiwedd y 18fed ganrif neu yn y 19eg ganrif, yn ogystal â thai 'fila' deulawr o gerrig wedi'u rendro a adeiladwyd mewn traddodiad mwy boneddigaidd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae'r capel yn Nebo yn strwythur cerrig sylweddol sy'n dyddio o 1860; yn gysylltiedig â'r capel hwn mae mynwent. Nodweddir y patrwm anheddu mwy diweddar - o ddiwedd yr 20fed ganrif - at ei gilydd gan ddatblygiadau hirgul a chlystyrau llac yn Efailwen a Glandy Cross. Mae ysgol fodern yn Efailwen, tafarndy a garej/siop yn Glandy Cross, ac yn y ddau leoliad ceir nifer fawr o dai a byngalos yn perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaethau o arddulliau a defnyddiau. Mae adeiladau amaethyddol yn fach, sy'n adlewyrchu maint y daliadau. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: un rhes fach, wedi'i hadeiladu o gerrig yn y 19eg ganrif; rhesi wedi'u hadeiladu o friciau ar ddechrau'r 20fed ganrif, ysguborau a strwythurau eraill o haearn rhychog; a nifer o strwythurau bach wedi'u hadeiladau o ddur, concrid ac asbestos ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig o fewn yr ardal gymeriad. O ran trafnidiaeth y brif elfen yn y dirwedd yw'r A478 sy'n rhedeg ar hyd crib yr esgair lle y mae datblygiadau modern wedi'u canoli. Mae ffyrdd eraill yn cynnwys lonydd syth a throellog a llwybrau wedi'u hamgáu gan cloddiau terfyn.

Cydnabyddir bod tirwedd Glandy Cross o gryn bwys oherwydd ei chyfadail o henebion defodol ac angladdol yn dyddio o'r oes neolithig a'r oes efydd. Ymhlith y rhain mae cylch cerrig Meini Gwyr, meini hirion, crugiau crwn, carneddau cylchog a safleoedd eraill sy'n sefyll, y mae llawer ohonynt yn Henebion Cofrestredig. Hefyd o fewn yr ardal hon mae ffatri fwyeill neolithig, ac o leiaf ddwy fryngaer o'r oes haearn.

Er bod Glandy Cross yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig, nid yw'n hawdd diffinio ei ffiniau am ei bod wedi'i hamgylchynnu gan dir ffermio amgaeëdig sydd ar yr wyneb yn meddu ar nodweddion tebyg. Felly dylid ystyried bod holl ffiniau'r ardal hon yn ardaloedd cyfnewid, yn hytrach na ffiniau pendant.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/LJ/646; Arolwg Ordnans, Lluniau Tirfesurwyr, 2" i 1 filltir, Dalen 188, 1809; Commons Journal/Cylchgrawn Tþ'r Cyffredin, 1809; David a Williams 1995; Jones 1937; Kirk a Williams 2000; Lewis 1975; Lhuyd 1695, colofn 628; Map degwm a rhaniad Cilymaenllwyd 1837; Map degwm a rhaniad Llandisilio, 1840; Map degwm a rhaniad Llanglydwen, 1846; Williams, 1990