263 CARN WEN
CYFEIRNOD GRID : SN166283
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 17.5
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan yn y Sir Gaerfyrddin fodern yn cynnwys Carn Wen,
bryn i dde-ddwyrain Mynydd Preseli. Gorwedd o fewn Cwmwd Amgoed, cwmwd
yng Nghantref Gwarthaf a ad-drefnwyd fel Arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd
San ClLr erbyn 1130. Fodd bynnag parhaodd yr ardal i gael ei dal o dan
gyfundrefnau tenantiaeth Cymreig ar hyd yr amser i fewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol
ac erbyn yr oesoedd canol diweddar fe'i rhennid i dri bloc o ddaliadau
gwasgaredig - Traean Morgan, Traean Clinton, a Traean March y gorweddai
Carn Wen o'i mewn. Mae'r bryn, ac mae'n debyg mae felly y bu o hyd, yn
agored ond mae yn awr bron i gyd yn cynnwys chwarel fawr sydd bellach
yn segur. Hwyrach bod y chwarel wedi cynhyrchu peth llechi ond mae unrhyw
dystiolaeth o hynny wedi diflannu o ganlyniad i gloddio mwy diweddar am
gerrig
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad hanesyddol fechan iawn yw hon. Mae'n cynnwys bryn
bychan - Carnwen - sy'n codi o'r ffermdir a amgaewyd sy'n ei amgylchynu
ar 250m i uchafswm o 289m. Mae'n agored ac wedi ei orchuddio a rhedyn
a phrysgwydd eithin. Nid yw'n cael ei bori. Bu chwarel fawr yn gweithio
yma tan ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae olion diwydiannol y chwarel hon yn
un o brif elfennau tirwedd hanesyddol yr ardal. Ni cheir aneddiadau a'r
unig adeiladau yw'r rheini sy'n gysylltiedig a'r chwarel sydd bellach
yn segur. Rhed yr A478 ar hyd ffin orllewinol yr ardal.
Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i fan darganfod o'r
oes efydd, ond mae enw'r lle yn awgrymu bod tomen neu domenni o'r oes
efydd ar gopa'r bryn, a gafodd eu symud gan y chwareli ^l-ganoloesol.
Mae'r bryn bychan agored yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
a ddiffynir yn dda. Fe'i hamgylchynir gan ffermdir ardal gymeriad Pentre
Galar a amgaewyd.
Ffynonellau: Map Degwm a rhaniad Llanglydwen, 1846; Rees
1932; Richards 1998
|