239 BANC WERNWGAN - CHWARELI FOEL FRAITH
CYFEIRNOD GRID: SN 721187
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1378.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd eithriadol fawr sy'n stribed â gogwydd dwyrain-orllewinol
ar asgell ogleddol y Mynydd Du. Unwaith gorweddai oddi mewn i Faenor Gwynfe,
Cwmwd Perfedd, Cantref Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid
o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri yn 1110 - 16
(Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu
fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond dychwelodd yn ddiweddarach o dan reolaeth
Gymreig. O 1282 ymlaen parhaodd yr arglwyddiaeth o dan reolaeth Seisnig
ond goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yn yr ardal hyd ddiwedd
y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern.
Daliwyd hi yn ystod y cyfnod ôl?ganoloesol gan Fychaniaid Gelli Aur a
Ieirll Cawdor (James n.d., 87). Mae yn awr yn weundir a mynydd agored.
Mae'r ffin rhwng yr ardal hon a thiroedd caeëdig Ardaloedd 233 a 255 i'r
gogledd wedi ei hir sefydlu a'i diffinio gan wal gerrig a /neu fanc, sy'n
awgrymu cyfnod hir o sefydlogrwydd - ers yr 16eg ganrif mewn mannau (Leighton
1997,29) - heb ddim tystiolaeth o ymwthiadau ad hoc neu gau seneddol diweddarach.
Y prif themâu sy'n dominyddu hanes y defnydd tir o fewn i'r ardal hon,
sydd wedi ei dominyddu gan gyn chwareli carreg galch a phori parhaus gan
ddefaid ar y tir uchel, yw y symud ar goedydd naturiol - sy'n cyrraedd
uchder o 800m - o'r cyfnod Mesolithig ymlaen; anheddau a rhannu'r tir
yn y cyfnod cynhanesyddol gyda gweithgaredd defodol cyfoes; yr anheddu
anffurfiol yn yr ardal, gyda thai hir, a'i rhannu'n gaeau'n rhannol yn
ystod y cyfnod ôl-ganoloesol ; a gweithgareddau hamdden y 19eg a'r 20fed
ganrif yn cynnwys hela (Leighton 1997). Dwysaodd y gweithio calch, a ddigwyddodd
ers o leiaf y cyfnod Canoloesol, yn ystod y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif
a chyd-ddigwyddodd cloddio am silica ag ef. Derbyniodd y gweithgareddau
hyn hwb pan gafodd heol y mynydd a oedd mewn bod, ac yn llwybr porthmyn
ôl-ganoloesol o bwys, ei gwneud yn ffordd dyrpeg o 1779. Dilynwyd hon
gan yr A4069 ond mae'n goroesi o hyd fel 'Heol y Bryn' (DAT a CPAT, 1997,5).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhan honno o'r Mynydd Du sydd â daeareg
carreg galch garbonifferaidd ac mae wedi bod yn lleoliad cloddio. Mae'n
cynnwys llethrau ar ymylon gogleddol y mynydd sy'n wynebu'r gogledd ac
sydd rhwng 300m a 600m o uchder. Mae'r ardal yn hollol agored ac yn dir
pori garw a gweundir agored, gyda mawnydd blanced ar y tir uchel ac yn
y pantiau. Mae olion y diwydiant cloddio carreg galch yn hollbresennol
a'r rhain yw elfennau mwyaf amlwg y dirwedd hanesyddol. Chwareli a thomennydd
sbwriel yw'r olion amlycaf, ond y mae nifer sylweddol o odynnau calch
hefyd wedi eu gwasgaru ar draws y dirwedd. Hefyd yn gysylltiedig â'r cloddio
y mae ffordd yr A4069 a 'Heol y Bryn' a godwyd yn wreiddiol i wasanaethu'r
diwydiant cloddio carreg galch.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn helaeth ac mae'n perthyn
i'r defnydd tir a amlinellir uchod yn cynnwys llwyfannau anheddau o'r
Oes Efydd, cernydd copa a systemau caeau, tai hir ôl-ganoloesol a chlostiroedd
anffurfiol, nodweddion cloddio'r garreg galch megis chwareli, odynnau
a rhwydwaith helaeth o lwybrau a nodweddion gweithgareddau hamdden a gwylfannau
o'r 19eg a'r 20fed ganrif.
Nid oes adeiladau yn sefyll.
I'r gogledd mae'r ardal hon wedi ei diffinio'n dda gan
ei bod yn ffinio ag ardal o glostiroedd waliau cerrig a thir fferm caeëdig.
Ar yr ochrau eraill mae'n ymdoddi i'r rhan fwyaf o'r Mynydd Du.
|