Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

238 FFOREST GLASFYNYDD - CRONFA AFON WYSG

CYFEIRNOD GRID: SN 823279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 834.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad yn gorwedd ar gopa Mynydd Myddfai, o amgylch Cronfa afon Wysg. Gorwedd hanner gogleddol yr ardal yng nghyn faenor Myddfai, Cwmwd Perfedd, yn y Cantref Bychan a goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid ynddi hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol fe'i daliwyd gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d.,87). Gorweddai hanner deheuol yr ardal o fewn Arglwyddiaeth Brycheiniog. Mae'r ardal yn nodweddiadol o ucheldiroedd de-orllewin Cymru gyda'i gadwraeth uchel ar archeoleg gynhanes sy'n darparu haen ar ôl haen o hanes ac a gynrychiolir yma gan dirwedd gladdu ddefodol o'r Oes Efydd yn cynnwys meini hir a charneddau tomen crwn. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gweinyddwyd llawer o'r ardal o dan Ddôl Hywel, maenor a roddwyd i Abaty Talyllychau erbyn 1324 (Ludlow 1998). Roedd capel y faenol a gysegrwyd i Ddewi Sant hefyd yn gapel anwes i blwyf Myddfai (ibid.), ond ymddengys bod ei safle yn gorwedd o dan gronfa afon Wysg. Maenol tir uchel ydoedd a weithredwyd yn fwy na thebyg gan ffermwyr tenant yn ymwneud yn bennaf a thir pori mynydd i anifeiliaid, ac ymddengys ei fod heb ei gau i raddau helaeth yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel ag y mae heddiw. Dangosir yr ardal gan y mapiau hanesyddol fel gweundir gydag ychydig o aneddiadau. Dangosir rhai caeau ar ochrau isaf y dyffryn, fodd bynnag, ac mae tystiolaeth ffisegol o glostiro blaenorol, yn cynnwys traciau a systemau draenio adfeiliedig o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, a ddarganfuwyd mewn perthynas â'r anheddau bythynnod a thai hir oedd yn nodweddiadol o ucheldiroedd de orllewin Cymru yn ystod y cyfnodau trawsnewid ac ôl-ganoloesol (Sambrook a Ramsey, 1999). Efallai fod peth o'r anheddiad hwn yn gysylltiedig â'r chwareli cerrig llechi yn Ardal gyffiniol 240. Nid oes gan yr ardal anheddiad ddiweddar, ond cafodd Cronfa Ddwr Afon Wysg ei hagor ym 1955 i gyflenwi dwr i Abertawe, a chafodd effaith fawr ar y dirwedd fel y cafodd y planhigfeydd coniffer eang sydd yng ngweddill yr ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Elfennau o'r 20fed ganrif yn bennaf sydd yn yr ardal gymeriad hon. Gorwedd y tir yn nyffryn uchaf afon Wysg ar uchder o rhwng 300m a 400m. Mae'r holl ardal yn awr naill ai o dan ddyfroedd cronfa afon Wysg neu o dan goedwigoedd coniffer trwchus. Cyn codi'r gronfa a phlannu'r coed roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn weundir agored - y Mynydd Du/Mynydd Myddfai - er bod ychydig o dir a gaewyd ac anheddau gwag ar ochrau isaf y dyffryn a gwaelod y dyffryn.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac amrywiol ac yn cynnwys safle darganfyddiad Neolithig, dau faen hir o'r oes Efydd a phâr o gerrig, dwy domen gron o'r Oes Efydd, safle Maenol Ganoloesol a chapel, a darnau nodwedd anheddiad ôl? ganoloesol yn cynnwys ty hir, bythynnod, ffermdy, llwybr a system draenio.

Mae pob un o'r adeiladau a oroesodd yn adfail ac yn fythynnod syml o gerrig.

Mae'r ardal hon wedi'i diffinio'n dda gan ei bod yn ffinio â gweundir agored i'r gorllewin a'r gogledd ac â thir caeëdig ym Mhowys i'r dwyrain a'r de