|
235 MAES-GWASTAD
CYFEIRNOD GRID: SN 727290
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 311.40
Cefndir Hanesyddol
Ardal i dde ddwyrain afon Tywi a fu unwaith yn rhan o gwmwd Perfedd,
Cantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl?Normaniaid yn dynesu o'r
dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110
-16 (Rees n.d.). Yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford
o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu sawl pennod
o reolaeth Gymreig a goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yno hyd
ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin
fodern. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal hon yn rhan o patria Llangadog a
gymerwyd gan esgob Tyddewi yn niwedd y 13eg ganrif (Rees 1932). Awgrymir
anheddiad, a rhannu tir ffurfiol, Canoloesol gan dystiolaeth yr enwau
lleoedd mewn ardaloedd eraill a orweddai oddi fewn i'r patria (ee. Ardal
207), ac yn yr un modd mae'r enwau yn Ardal 235 yn awgrymu presenoldeb
darnau caeau agored blaenorol, a berthynai efallai i fwrdeisdref Llangadog
a oedd yn dechrau datblygu (Ardal 206), ac mae'n ymddangos bod llain o
haenau tir caeëdig felly yn gorwedd ar ben gogleddol yr ardal. Mae'r castell
mwnt a beili yng Nghastell Meurig 1.5 km i'r de ddwyrain o Langadog yn
ymddangos fel pe bai yn perthyn i gymal cyntaf cynnar yr ymgyrch Eingl
Normanaidd. Fe'i cipiwyd â chatapyltiau a ffyn tafl gan y Tywysog Maelgwn
ap Rhys ym 1203 (Jones 1952, 82), ac ar ôl hynny efallai iddo fynd yn
wag; o leiaf, nid yw'n ymddangos ei fod wedi dylanwadu ar unrhyw anheddiad
diweddarach. Dominyddwyd hanes ôl-ganoloesol yr ardal, cyfnod pryd y daliwyd
Arglwyddiaeth Llanymddyfri gan Fychaniaid Gelli Aur ac yn ddiweddarach
Ieirll Cawdor (James n.d.,87) gan dy bonedd Glansefin, a fu'n gartref
i'r teulu Lloyd ers yr 16eg ganrif ac fe'i haseswyd yn dy 8 aelwyd yn
1670 (Jones 1987,78). Safai'r annedd ei hun, sydd yn awr yn westy, yn
Ardal 228 ond mae ffarm y plas a'r felin yn yr ardal gymeriad hon. Cyfeirir
at Glansefin Isaf ychydig i'r gogledd ym 1634 pan gafodd ei forgeisio
am £100 i ddod yn rhan o ystad Dirleton yn Ardal 201 (ibid.). Mae'r A4069
rhwng Llangadog a Llanymddyfri sy'n ffurfio ymyl gogledd orllewinol yr
ardal gymeriad yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg a ddechreuwyd ym 1779
(Lewis 1971,43). Ychydig iawn o ddatblygu a fu'n ddiweddar; cododd pentref
cnewyllol bychan o amgylch Sardis capel Anghydffurfiol o'r 19eg ganrif,
oddi ar y prif lwybr, tra bod cornel gogledd-orllewinol yr ardal lle y
mae'n mynd i mewn i Langadog (Ardal 206), wedi datblygu rhywfaint yn yr
20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Maes-gwastad yn llanw llawr dyffryn eang Afon
Brân i'r dwyrain o Langadog. Mae'n gymharol wastad ac mae'n gorwedd rhwng
60 m a 80 m uwchlaw lefel y môr. Yn ei hanfod tirwedd o dir pori wedi
ei wella a ffermydd gwasgaredig ydyw. Mae'r caeau'n ganolig i fawr o ran
eu maint ac amrywiant o'r cymharol reolaidd i'r afreolaidd. Mae rhai ar
ffurf stribedi, gan awgrymu system o gaeau agored. Mae'r ffiniau yn gyffredinol
yn gloddiau pridd a gwrychoedd arnynt. Mae'r cloddiau wedi eu cynnal a'u
cadw'n dda iawn. Mae gan yr ardal olwg agored oherwydd mai ychydig o goed
a geir yn y gwrychoedd ac ychydig o goedwigoedd. Mae'r A4069 yn gyn ffordd
dyrpeg; mae'r ffyrdd eraill yn lonydd a llwybrau lleol. Ffermydd gwasgaredig
yw patrwm yr anheddiad. Ffermdai yn dyddio o'r 19eg ganrif, adeiladau
deulawr â thri bae ydynt, o gerrig, gydag enghreifftiau o'r traddodiad
brodorol ynghyd â'r arddull Sioraidd mwy bonheddig. Mae'r tai allan o'r
19eg ganrif sy'n gysylltiedig â'r ffermydd yn rhai sylweddol, fel y mae'r
adeiladau amaethyddol modern.
Dominyddir yr archeoleg a gofnodwyd gan briddwaith rhestredig
castell mwnt a beili enfawr Castell Meurig a gadwyd mewn cyflwr da. Cafwyd
hefyd ddarganfyddiadau o'r Oes Haearn a Rhufeinig, y caeau agored Canoloesol
a gaewyd, a dau briddwaith anhysbys.
Ceir rhai adeiladau nodedig, ond nid oes yr un wedi ei
restru, yn cynnwys Pont Glansefin, fferm y plasdy a'r felin, Glansefin
Isaf, Ysgol Sul, a rhagor o felinau a phontydd.
Nid yw hon yn ardal hawdd i'w diffinio, gan fod yr ardaloedd
cymeriad eraill sy'n ffinio â hi'n meddu ar nodweddion tebyg. Fodd bynnag,
mae'r tir mwy coediog a'r caeau llai o faint yn yr ardaloedd sy'n ffinio
yn gyffredinol yn darparu digon o wahaniaethau i gael ffin gymharol glir
a phendant i'r ardal hon.
|