234 CEFNTELYCH
CYFEIRNOD GRID: SN 799322
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 257.90
Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog, gynt o fewn i Faenor
Myddfai, Cwmwd Perfedd, yn y cyn Gantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan
yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri
ym 1110 - 16 (Rees n.d.). Yn fuan faeth i feddiant yr arglwyddi Clifford
o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond dychwelodd o dan reolaeth
Gymreig hyd 1282 pan y'i meddiannwyd gan John Giffard (James n.d., 87).
Goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol
pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern . Daliwyd yr arglwyddiaeth
yn ddiweddarach gan deulu Audley, ac yn y cyfnod ôl-ganoloesol gan Fychaniaid
Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d.,87). Mae cefnen Cefntelych bellach
wedi ei chau â chaeau cymharol reolaidd mawr a sefydlwyd erbyn 1840 (Map
Degwm Myddfai). Gallant fod yn hwyrach yn y cyfnod ôl-ganoloesol, yn hytrach
nag yn gynharach, a gall fod y gefnen heb ei chau am lawer o'r cyfnod
hanesyddol. Caiff ei chroesi gan ffordd Rufeinig a ddilynai lwybr yr ucheldir
o Lanymddyfri (Alabum) i Aberhonddu (Cicutio). Mae'r ardal (yn cynnwys
ardal gyfagos 240), o ganlyniad i'r ffordd yn arddangos nifer o safleoedd
milwrol Rhufeinig (James1982,9), megis y gwersyll gorymdeithio a'r gwersyll
ymarfer yn Allt-yr-hafod-fawr. Ni fu datblygu wedi hynny o fewn i'r ardal
gymeriad ar wahân i un daliad bach anffurfiol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad gymharol fechan hon yn cynnwys cefnen gogledd-orllewiniol
a de-ddwyreiniol rhwng 180m a 270m. Ar wahân i un fferm fechan gyda ffermdy
o'r 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol a rhes fach o dai allan, nid
oes aneddiadau yn yr ardal. Mae lôn syth - sydd ar gwrs ffordd Rufeinig
- yn rhedeg ar hyd y gefnen. Yn ei hanfod mae hon yn dirwedd caeau rheolaidd
canolig i fawr o ran eu maint a rennir gan gloddiau pridd a gwrychoedd
arnynt. Ar wahân i ffyrdd cyffiniol a llwybrau, mae'r cloddiau mewn cyflwr
gwael ac maent naill ai wedi dymchwel neu wedi tyfu'n wyllt. Ychydig o
goed nodedig sydd i'w gweld yn y gwrychoedd ac mae'r ffactor hwn ynghyd
â diffyg tir coediog a'r cloddiau sydd wedi dymchwel yn rhoi golwg agored
i'r dirwedd. Y defnydd tir bron yn gyfan gwbl yw tir pori a gafodd ei
wella.
Dominyddir yr archeoleg gan y ffordd Rufeinig, y gwersyll
ymarfer a'r gwersyll gorymdeithio sydd wedi goroesi fel cloddweithiau
pridd ac sy'n rhoi haen ar ôl haen o hanes i'r dirwedd.
Ceir hefyd garreg arysgrifedig bosibl. Ychydig o adeiladau
sydd yn yr ardal ac nid oes un sy'n nodedig.
Mae'r ardal gymeriad i'r gorllewin, yn rhannu llawer o
hanfodion hanesyddol yr ardal hon sy'n llain o newid graddol yn hytrach
na'n forder ymyl galed. Yn y mannau eraill i'r de a'r gorllewin mae'r
wedd goediog drom a chaeau llai yr ardal gyfagos yn ffin weddol glir.
Gorwedd planhigfa goniffer i'r dwyrain.
|