Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

232 MYDDFAI

CYFEIRNOD GRID: SN 774304
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 910.9

Cefndir Hanesyddol
Ardal o amgylch, ac yn cynnwys, pentref presennol Myddfai. Ffurfiai graidd Maenor Myddfai, Cwmwd Perfedd, yn y cyn Gantref Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond dychwelodd o dan reolaeth Gymreig hyd 1282, a chadwodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Cynrychiolir cnewllyn y pentref gan eglwys y plwyf, Eglwys Mihangel Sant, sy'n ymddangos fel y prif ran, yn sefyll yn ganolog mewn mynwent gron. Gall ei chysegriad fod cyn y Coresgyniad ac mae'r ardal yn safle cyn ECM (Sambrook and Page 1995,4), ond ni sonnir am yr eglwys cyn 1284, pan syrthiodd yr adfowsion i'r Brenin Edward y Cyntaf i'w rhoi yn ddiweddarach i esgob Tyddewi (Ludlow 1998). Hefyd roedd tir o amgylch y pentref yn eiddo i Abaty Talyllychau . Ym1282 daeth Maenor Myddfai, a allai fod wedi cael ei weinyddu o Fyddfai ei hun yn Faenordy Myddfai o dan John Giffard, Arglwydd Llanymddyfri (James n.d., 87). Efallai i'r digwyddiad hwn gael ei gynrychioli gan sefydlu safle mwnt ychydig i'r de o'r pentref presennol, sydd efallai'n awgrymu yn ei dro bod anheddiad wedi dechrau'n barod o gwmpas yr eglwys. Daliwyd y maenordy ac Arglwyddiaeth Llanymddyfri yn ddiweddarach gan deulu Audley, ac yn y cyfnod ôl?ganoloesol gan Fychaniaid y Gelli Aur ac Ieirll Cawdor (James n.d.,87). Fodd bynnag dylanwadwyd yn drymach ar hanes y dirwedd gan deuluoedd bonedd preswyliol Cwm Ydw, teulu Bowen, a breswylient yno ers y 18fed ganrif (Jones 1987,50) a Gorllwyn, cartref teulu Price, ers yr 17eg ganrif (Jones 1987,86), a Phlasdy cyfagos Cilgwyn a Llwynwormwood (Ardal 228). O leiaf, roedd y dirwedd o fewn i Ardal 232 heb amheuaeth wedi sefydlu erbyn yr 17eg ganrif ac roedd y patrwm presennol o glostiroedd canolig i fawr wedi eu gosod erbyn 1840 (Map y degwm Myddfai). Cynrychiolir cloddio am fwynau ar raddfa fechan yn yr ardal gan siafft blwm ôl-ganoloesol a chwarel. Daeth pentref Myddfai yn ganolfan i weithgareddau'r porthmyn yn ystod y 18fed ganrif gydag o leiaf ddau dy tafarn (Sambrook and Page 1995,23) ac roedd yn ddigon pwysig - fel pencadlys y plwyf erbyn diwedd y 19eg ganrif, i gael dau gapel, ysgol a swyddfa bost. Codwyd y tai teras presennol hefyd yn niwedd y 19eg ganrif, gan ddisodli'r rhan fwyaf o'r adeiladau cynharach. Bu peth datblygu cyfyngedig yn yr 20fed ganrif sy'n cynnwys gwaith carthffosiaeth ychydig i'r de-ddwyrain o'r pentref.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad hon wedi ei chanoli ar bentref Myddfai sy'n gorwedd yn nyffryn agored, afon Brân, sydd ar ffurf powlen. Mae llawr y dyffryn tua 100m i 130m o uchder, ac mae ochrau'r dyffryn yn codi i dros 200m. Yn ei hanfod ardal yw hon o ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain. Caewyd yr holl dirwedd yn gaeau bychain a chanolig sy'n tueddu tuag at fod yn rheolaidd yn hytrach nag afreolaidd. Mae'r ffiniau yn gyfan gwbl yn rhai o gloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pen. Mae'r cloddiau mewn cyflwr da, ond gyda pheth dirywiad, yn arbennig ar y lefelau uwch. Mae gan rai o'r gwrychoedd goed nodedig. Mae ffensys gwifren yn atgyfnerthu rhai cloddiau. Tir pori wedi ei wella yw'r rhan fwyaf o'r tir amaeth. Ceir llennyrch bychain o goed collddail ar rai o ochrau llethrog y dyffryn, ond mae'r rhain yn ychydig o'u cymharu â'r olwg goediog drwm sydd i ardaloedd cyfagos. Canolir pentref cnewyllol Myddfai ar eglwys Ganoloesol Mihangel Sant. Ceir nifer o derasau o'r 18fed ganrif ddiweddar a dechrau'r 19eg ganrif o fythynnod deulawr, wedi eu codi o gerrig (y rhan fwyaf wedi eu rendro) wedi eu lleoli'n glwstwr o amgylch yr eglwys, gyda datblygiad anheddau o'r 19eg ychydig diweddarach a'r 20fed ganrif ar gyrion y pentref. Prif batrwm anheddiad yr ardal yw ffermydd gwasgaredig. Mae'r ffermdai yn bennaf yn dyddio o'r 19eg ganrif, wedi eu codi o gerrig, yn ddeulawr â thri bae, ac yn gyffredinol yn y traddodiad brodorol. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd dai allan o'r 19eg ganrif wedi eu codi o gerrig ynghyd ag adeiladau amaethyddol modern. Tuedda'r adeiladau hyn fod o un neu ddwy ystod sydd yn anaml wedi eu lleoli'n ffurfiol o amgylch clos.

Mae'r archeoleg a gofnodir o sawl cyfnod ac mae'n cynnwys celc o'r Oes Efydd, maen hir a thomen gron, safle ECM goll o'r cyfnod Canoloesol cynnar, yr eglwys, safle mwnt ôl-Oresgyniad, a chloddfa blwm a chwarel o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ogystal ceir safleoedd cloddwaith ac ôl cnwd o darddiad anhysbys.

Mae yna rai adeiladau nodedig ond ychydig sy'n rhestredig. Mae'r eglwys Ganoloesol hynod, heb dwr yn rhestredig Gradd B, Ceir bocs ffôn K6 yng nghanol y pentref sydd yn adeilad rhestredig Gradd II. Ceir llawer o dai bonedd yn cynnwys Llwyn Meredydd, Cwm Ydw a Gorllwyn, a ailgodwyd yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys pedwar capel, ysgol, tafarn, swyddfa bost a phont.

Nid yw Myddfai yn ardal gymeriad hawdd i'w diffinio gan fod ardaloedd cyfagos yn meddu ar hanfodion tirwedd hanesyddol tebyg. Fodd bynnag mae iddi batrwm caeau mwy rheolaidd na'i chymdogion, ac mae'n llai coediog, ac mae ganddi bentref bychan cnewyllol yn graidd iddo