Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

229 RHIWIAU

CYFEIRNOD GRID SN 742261
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 406.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan ar ymyl gogledd orllewinol y Mynydd Du. Ar un adeg roedd yn rhan o Gwmwd Perfedd o fewn y cyn Gantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid o dan arweiniad Richard Fitz Pons, gwr a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110 -16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Gorweddai'r ardal yn yr is-adran bellach, Maenor Llanddeusant, yr oedd iddi efallai yr un ffiniau â phlwyf eglwysig Llanddeusant. Ar hyn o bryd nid oes anheddiad a fyddai efallai'n adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol, o leiaf o fewn y cyfnod hanesyddol, pan fyddai'r ardal, yn fwy na thebyg, yn cynnwys tir pori heb ei gau. Roedd y patrwm presennol o glostiroedd mawr hirsgwar yn bodoli erbyn 1841 (map degwm Llanddeusant ) ond roedd yn fwy na thebyg yn ganlyniad proses gymharol ddiweddar yr ymgymerwyd â hi o bosibl gan un o'r tirfeddianwyr lleol pwysicach. Mae presenoldeb corlan bosibl yn awgrymu fod y cyn dirwedd heb ei gau ac yn dir pori. Darperir y dystiolaeth o anheddiad cynharach, a dyfnder hanesyddol gan ddwy domen gron o'r Oes Efydd. Cynrychiolir gweithgaredd cloddio ar raddfa fechan gan Rhiw, siafft blwm fechan ôl-ganoloesol yng ngogledd yr ardal. Ni fu fawr o ddatblygu diweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Rhiwiau ar draws crib dde-orllewin - gogledd-ddwyrain sy'n cyrraedd uchder o dros 350m. Nid oes aneddiadau. Rhannwyd y grib yn glostiroedd canolig i fawr eu maint, cymharol reolaidd, gan gloddiau pridd a gwrychoedd. Ar frig y grib mae'r clostiroedd hyn bron i gyd bellach wedi diflannu, y cloddiau wedi mynd, ac ar wahân i ffensys gwifren mae'n ardal agored. Ar ochrau'r grib mae'r cloddiau'n cynnwys llinellau anniben o lwyni wedi tyfu'n wyllt gyda choed nodedig hwnt ac yma. Yma eto ffensys gwifren yw'r ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro. Mae'r ardal i gyd yn dir pori sydd wedi ei wella gyda pheth tir pori garw ar y tiroedd uchaf a rhai llethrau serth, a thir coediog o goed collddail a phrysgwydd ar y llethrau mwyaf serth. Oherwydd dirywiad yr hen ffiniau, mae brig crib Rhiwiau yn edrych yn agored ac heb ei chau.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dwy domen o'r Oes Efydd, dau enw lle llan, cloddfa blwm ôl-ganoloesol Rhiw, a chorlan ddefaid bosibl.

Nid oes adeiladau yn sefyll.

Er bod Rhiwiau yn ardal gymeriad glir nid oes gan ei ffiniau ymylon pendant. Ymdodda'r ardal hon i'r ardal gyfagos o dir ffermio a rannwyd yn gaeau. I'r gorllewin yn unig wrth gwrdd â phlanhigfa goedwigaeth y ceir ffin bendant.