Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

199 BEDDAU Y DERWYDDON CYFEIRNOD

GRID: SN 677182
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan sydd yn glostir wedi ei gwmpasu â wal garreg sych galchfaen 400m o hyd, o'r gogledd i'r de a 1000m o'r dwyrain i'r gorllewin, sy'n gorwedd mewn man lle y mae tir fferm a rannwyd yn gaeau a gweundir y Mynydd Du yn cyfarfod. Roedd yr ardal unwaith yn rhan o Faenor Llys, sy'n gorwedd yn rhan ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Yn wahanol i weddill Cantref Bychan, yr oedd yn rhan ohono, roedd Iscennen yn parhau mewn enw yn annibynnol ar yr Eingl-Normaniaid hyd 1284 pryd y'i meddiannwyd gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Mae'r clostiro yn debyg o fod o darddiad Canol Oesol diweddar/ Canol Oesol diweddar cynnar ac yn cau gweundir a fu mae'n debyg yn dir pori comin. Oddi mewn i'r clostir ceir nifer fawr o domennydd gobennydd, sydd mae'n debyg yn gyfoed â'r tir caeëdig ac yn cynrychioli tyllau cwningod cysylltiedig â naill ai Cwrtbrynbeirdd neu faenor Carreg Cennen (Ardal 197), maerdref Iscennen (Ardal 198) neu Gastell Carreg Cennen (Ardal 256) - mae'r enw Pâl-y-cwrt sy'n digwydd o fewn yr ardal yn awgrymu'r cyntaf. Mae'r wal a'r tomennydd gobennydd yn adfeiliedig ond wedi goroesi. Mae'r gweithgaredd ar ôl hynny'n awgrymu cloddio a phrosesu'r garreg galch.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Beddau y Derwyddon ar lethrau gogleddol y Mynydd Du ar uchder o 320m, yn cynnwys gweundir wedi'i rannu a brigiadau calchfaen creigiog. Mae'r wal gau carreg-sych mewn cyflwr gweddol am y rhan fwyaf o'i hyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn dir pori garw, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae is-rannu'r rhannau is, gogleddol gan ffensys gwifren wedi cydredeg gyda gwella'r tir pori. Mae ffordd un llwybr yn croesi'r ardal lle y saif olion odynau calch a godwyd â phridd a cherrig. Nid oes adeiladau, ond dynoda sylfeini llwyfan concrid bod rhyw ffurf ar adeiladwaith wedi sefyll gerllaw'r ffordd yn ddiweddar. Mae'r archeoleg gofnodedig yn cynnwys y wal, yr odynnau calch a'r safleoedd adeiledig a grybwyllir uchod, a'r tomennydd gobennydd, sy'n Heneb Gofrestredig. Ceir, yn ogystal, efallai o'r Oes Efydd, nifer o domenni crwn, tomenni clirio cerrig, ac is-glosdir o natur anhysbys.

Ni cheir adeiladau eraill.

Mae'r ardal wedi'i diffinio'n dda gan y wal gerrig sy'n ei hamgylchynu, ac mae'n sefyll mewn gwrthgyferbyniad clir i'r rhostir agored i'r de, a thir fferm wedi'i rannu gan gloddiau pridd a gwrychoedd i'r gogledd.