Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

197 - TRAP

CYFEIRNOD GRID: SN 647185
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 634.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan o ran maint wrth droed y Mynydd Du, a oedd unwaith yn rhan o Faenor Llys a lanwai ran ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Roedd Iscennen, yn wahanol i weddill Cantref Bychan yr oedd yn rhan ohono, wedi parhau mewn enw yn annibynnol ar reolaeth Eingl-Normanaidd hyd 1284 pan y'i prynwyd gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Lancaster (Rees 1953, xv-xvi). Gall fod Ardal 197 wedi bod yn rhan o ystad maerdref Carreg Cennen (gweler Ardal 198); o leiaf yr oedd ty^ bonedd, Cwrtbrynbeirdd, wedi ei sefydlu yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol diweddar, sydd efallai'n dangos dosraniad ystad fwy o faint. Mae Cwrtbrynbeirdd yn dy^ -neuadd y preswyliodd Morris Owen ynddo yn y 15fed ganrif (Jones 1962, 259) a gall fod cysylltiad rhyngddo â chau tir comin yn Ardal gyfagos 199 gyda'i dyllau cwningod. Mae'r system amgylchynol o glostiroedd cromliniol canolig eu maint yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth glostiroedd mwy afreolaidd gweddill yr ardal ac mae'n bosibl bod y dirwedd wedi ei had-drefnu gyda sefydlu'r ty^ a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o ystad Gelli Aur (Jones 1987, 17). Roedd ty^ Carreg Cennen yn sefydliad de novo gan y nabob Thomas Wright Lawford ym 1806, ac nid oes ganddo gysylltiad, ar wahân i'r enw, â Chastell Carreg Cennen (Ardal 256), ond ymddengys ei fod yn sefyll ar safle plasdy Canoloesol a berthynai i Abaty Talyllychau (Owen 1894, 35). Mae gan yr ardal, fel llawer o blwyf Llandeilo Fawr nodwedd eglwysig iddi; roedd tir mynachaidd pellach i'r dwyrain, a chapel Canoloesol (anwes i Landeilo Fawr?) i'r de o Gwrtbrynbeirdd, a cheir mynwent gistiau i'r gorllewin. Mae'n bosibl bod capel pellach yn bodoli gerllaw Trap lle y mae'r cnewylliad presennol, fodd bynnag yn perthyn i'r 19eg ganrif ddiweddar a'r 20fed ganrif; roedd y dirwedd bresennol wedi ei sefydlu erbyn yr amser pan baratowyd map y degwm plwyf Llandeilo Fawr (1841), ond y felin a'r dafarn yn ymyl y ffordd, y Cennen Arms, yw'r unig adeiladau a ddangosir yn Trap.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal Trap ar draws dyffryn agored afon Cennen islaw Castell Carreg Cennen. Mae gwaelod y dyffryn yn gorwedd ar tua 100m tra bod yr ochrau yn codi i dros 200m ar yr ochr ddeheuol gyda llawer brigiad carreg galch carbonifferaidd. Mae'r ardal wedi ei chau yn gyfres o gaeau bach afreolaidd, ar wahân i'r ochr ddeheuol yn agos at Gwrtbrynbeirdd lle y mae clostiroedd mwy rheolaidd canolig eu maint yn bodoli. Cloddiau pridd gyda gwrychoedd yw ffiniau y caeau i gyd, er bod ffensys gwifren yn ategu'r rhan fwyaf o'r cloddiau. Amrywia'r cloddiau o ran eu cyflwr, ond tueddant i fod wedi gordyfu. Mae gan rai ffermydd gloddiau sydd wedi eu cynnal a'u cadw'n gymen. Mae tuedd bach i esgeuluso cloddiau ar y lefelau uwch. Mae gan lawer o'r cloddiau goed nodedig a rhydd y rhain, a'r cloddiau sydd wedi gordyfu a'r clymau bychain o goed collddail lluosog olwg goediog i'r dirwedd. Mae sawl planhigfa o goed coniffer yn bod yn yr ardal. Tir pori yw'r defnydd tir pennaf ac er bod llawer ohono wedi ei wella, mae sawl darn o dir brwynog a heb ei wella ar lethrau'r dyffryn a gwaelod y dyffryn. Mae patrwm yr anheddiad yn un o ffermydd a thai gwasgaredig gyda chlwstwr llac o dai yn Trap. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio o'r 19eg ganrif yn bennaf ac yn y traddodiad brodorol. Mae'r adeiladau o statws uwch a mwy hynafol megis y ty^ mawr is-ganoloesol a'r un diweddarach yn Nghwrtbrynbeirdd a'r ffarm yn Llwyndewi yn darparu rhagor o ddyfnder-cyfnod a rhagor o haeniad cymdeithasol ac economaidd i'r dirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai allan o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi â cherrig, ond mae adeiladau fferm modern yn gysylltiedig â hwy.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dau dwmpath llosg o'r Oes Efydd, ac o'r cyfnod Canoloesol, ceir mynwent cistiau ac o bosibl ffynnon gysygredig. Mae'r nodweddion archeolegol ar hyd y bryncyn carreg galch sy'n ffurfio ymyl ddeheuol yr ardal yn ymwneud yn bennaf â phrosesu carreg galch megis chwareli, odynnau calch a gweithfeydd calch.

Ceir nifer o adeiladau nodedig. Mae olion y Capel Dewi canoloesol yn rhestredig Gradd II Yn union i'r gogledd mae Cwrtbrynbeirdd (Rhestredig Gradd II) sydd yn tarddu o'r 15fed a'r 16eg ganrif, gyda lansed gorniog sengl a newidiadau diweddarach. Ty^ bonedd diweddarach yw Ty^ Carreg Cennen (Rhestredig Gradd II), y dechreuwyd ei godi yn 1806 ar sail dyluniadau gan y pensaer S P Cockerell, ac mae'n enghraifft dda o dy gwledig Sioraidd gyda neuadd risiau ryfeddol ac adeilad gwenynfa arbenigol rhestredig Gradd II, ac mae wedi cadw ei brif nodweddion. Saif rhes ffurfiol o adeiladau fferm o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Llwyndewi. Adeiladau o'r 19eg ganrif yn bennaf yw'r rhai yn Trap, wedi eu codi â charreg a thoeau llechi gyda thai yn y traddodiad brodorol a'r traddodiad Sioraidd cain. Rhwng y rhain ceir anheddau o'r 20fed ganrif ddiweddar mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, er y gall y felin, fodd bynnag, fod o gyfnod cynharach a cheir bocs ffôn K6. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio o'r 19eg yn bennaf ac wedi eu codi o gerrig gyda thoeau llechi, ac er bod llawer yn y traddodiad brodorol ac yn adeiladau deulawr â thri bae, y mae enghreifftiau o'r arddull gain Sioraidd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai allan ar y ffermydd o'r 19eg ganrif, wedi eu codi o gerrig gyda'r enghreifftiau mwyaf sylweddol mewn trefn led-ffurfiol er yn aml maent yn un rhes yn unig.

Mae'r ardal gymeriad hon er wedi ei diffinio'n dda i'r de lle mae'n gorgyffwrdd â thir uchel sydd heb ei rannu'n gaeau, yn llai diffiniedig ar yr ochrau eraill. I'r de, i'r dwyrain a'r gorllewin mae'r ardaloedd cymeriad yn cynnwys nodweddion tebyg ac mae tuedd i gael llain o newid graddol, yn hytrach na ffin ymyl galed, a'r eithriad yw ardal gymeriad fechan Castell Carreg Cennen i'r dwyrain.