Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

223 FFOREST

CYFEIRNOD GRID: SN 784402
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 463.50

Cefndir Hanesyddol
Ardal yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria i'r dwyrain o flaenddyfroedd Afon Tywi, a fu unwaith yn rhan o Gantref Bychan a oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri, ond cadwodd arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin. Lleolid hanner gogledd yr ardal o fewn Maenor Nant-y-bai, a roddasid fel maenor i Sistersiaid Ystrad Fflur, yn ôl pob tebyg gan Gruffydd ap Rhys tua 1200, ac a arhosodd yn un uned ar ôl y Diddymiad fel ystad Ystrad-ffin. Dengys arolwg a wnaed ym 1629 (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Hawlysgrifau Lort 17/678) ei bod yn cynnwys y mwyafrif o'r ffermydd oddi amgylch, a ddengys fod pobl eisoes wedi ymsefydlu yn y dirwedd oddi amgylch. Fel maenor a phlasty ucheldirol, fodd bynnag, mae'n debyg ei bod yn cael ei rhedeg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwnâi eu prif waith â rhoi anifeiliaid i bori ar y mynyddoedd. Mae Ardal 223 wedi'i labelu fel 'Fforest Crugyblaidd' ar fap Rees o Dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932) ac mae morffoleg ei ffiniau yn awgrymu ei bod wedi aros yn ardal agored tan ddechrau'r 19eg ganrif. Efallai bod corlan yn rhan ogleddol yr ardal yn gynharach a dengys fod pobl yn pori defaid. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys olion llwyfan tþ, a chlostiroedd a all fod yn gysylltiedig ag ef, sy'n nodweddiadol o aneddiadau Ôl-Ganoloesol cynnar yn yr ucheldiroedd yn ne-orllewin Cymru (Sambrook and Page 1995), ac mae'n bosibl eu bod yn deillio o bobl yn sgwatio ar y tir. Dengys nifer o safleoedd defodol o'r Oes Efydd fod hanes hir i'r ardal hon. Ni fu unrhyw ddatblygiadau diweddar ond ceir pocedi o blanhigfeydd coniffer yn perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Fforest yn ymestyn dros grib esgair 6 km o hyd a leolir rhwng dyffryn Afon Tywi a dyffryn Afon Brân. Anaml y mae'r esgair yn cyrraedd uchder o dros 300 m. Mae ei llethrau gogleddol, deheuol a gorllewinol yn disgyn yn serth i loriau'r dyffrynnoedd. I'r gogledd-ddwyrain mae'r esgair yn codi i'r ucheldir agored. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal. Mae cloddiau'n rhannu'r esgair yn gaeau. Ar y lefelau uchaf ac ar lethrau serth mae'r caeau'n fawr; nid oes angen y cloddiau bellach a defnyddir ffensys gwifrau i gadw'r da byw yn y caeau. Ar y lefelau uchaf hyn mae'r ardal yn ei hanfod yn un o rostir agored. Mae coetir prysglog a rhedyn yn gorchuddio'r llethrau serth. Mewn lleoliadau cysgodol, is ar grib yr esgair, ac ar y llethrau llai serth, mae'r caeau'n fach ac fe'u hamgaeir gan gloddiau â gwrychoedd. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael; naill ai wed'u hesgeuluso neu wedi tyfu'n wyllt. Eto defnyddir ffensys gwifrau i gadw'r da byw yn y caeau. Mae llwyni mewn rhai o'r gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt iawn wedi datblygu yn goed gwrych nodweddiadol. Yn yr ardaloedd hyn defnyddir y tir ar gyfer porfa wedi'i gwella a phorfa arw. Ceir un neu ddwy blanhigfa goniffer fach.

Dengys yr archeoleg a gofnodwyd fod hanes hir i'r ardal ac mae'n cynnwys dau grug crwn, un crug posibl, a man darganfod i gyd o'r Oes Efydd, o leiaf un fryngaer o'r Oes Haearn, ac un arall a awgrymir gan ôl cnwd, llwyfan tþ Ôl-Ganoloesol a thalwrn posibl, a system gaeau heb ddyddiad.

Cynrychiolir strwythurau adeiledig gan gorlan a throchfa defaid yn unig.

Ardal gymeriad nodweddiadol yw Fforest ac mae'n gwrthgyferbynnu â'r tir amgaeëdig, is o bobtu iddi lle y mae pobl wedi ymsefydlu.