220 DINAS
CYFEIRNOD GRID: SN 780477
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 424.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria, a leolir yn rhannol yn
Sir Gaerfyrddin ond yn bennaf o fewn gwlad hanesyddol a sir fodern Ceredigion,
a atgyfnerthwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd ym 1110 pan roddwyd hi
i Gilbert de Clare. Trwy'r rhan fwyaf o'r 12fed ganrif, fodd bynnag, roedd
dan reolaeth frodorol (Rees, d.d.). Cadwodd cwmwd Penardd, yng Nghantref
Uwch Aeron, lle'r oedd yr ardal wedi'i lleoli, arferion deiliadol brodorol
trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Lleolid ardal 220, mewn gwirionedd, o
fewn Maenor Llanddewi Brefi a fu'n eiddo i Esgobion Tyddewi o adeg y Goresgyniad
o leiaf hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol (Rees 1932). Maenor ucheldirol
ydoedd, a redid yn ôl pob tebyg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwnâi eu gwaith
yn bennaf â phori anifeiliaid ar borfeydd mynydd, ac ymddengys mai tir
agored ydoedd at ei gilydd yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw.
Ar y mapiau cynharaf fe'i dangosir yn debyg iawn i fel y mae ar hyn o
bryd, ac mae'r clostiroedd hynny sy'n bodoli yn deillio o bobl yn tresmasu
ar yr hyn oedd yn dir agored yn y 19eg ganrif. Nid oes unrhyw anheddiad
cyfoes ar y tir, sy'n adlewyrchu i raddau helaeth y defnydd hanesyddol
a wneid ohono; fodd bynnag mae'r enw Dinas efallai yn cynrychioli bryngaer
o'r Oes Haearn yr ymddengys nad oes unrhyw dystiolaeth ffisegol ohoni.
Honnir mai ogof o'r enw 'Ystafell Twm Siôn Catti' oedd canolfan Twm Siôn
Catti, cymeriad pictiwrésg a chrwydrol o'r 17eg ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Dinas yn cynnwys darn bach o rostir a choetir yn
nyffryn Tywi uchaf sydd rhwng 150 m a 400 m o uchder. Mae afon Tywi yn
llifo trwy'r ardal hon, gan wahanu dau fryncyn oddi wrth y brif ardal.
Mae'r ddau fryncyn hyn wedi'u gorchuddio â choetir collddail trwchus ac
maent yn rhan o warchodfa sy'n perthyn i'r RSPB. Mae'r brif ardal yn codi'n
serth o Afon Tywi mewn cyfres o lethrau creigiog sydd wedi'u gorchuddio
â sgri. Ar wahân i ffensys gwifrau mae'r ardal yn un agored, ac mae'n
cynnwys porfa arw iawn a dyddodion mawn.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i'r fryngaer
bosibl, y dystiolaeth bosibl a ddarperir gan yr enw lle 'Cae'r mot', a'r
ogof 'Ystafell Twm Siôn Catti'.
Nid oes unrhyw adeiladau sy'n sefyll.
Mae i ardal Dinas ffiniau pendant ac mae'n gwrthgyferbynnu
â'r tir ffermio yn y dyffrynnoedd. Yn ffinio â'r ardal hon i'r gogledd
ceir planhigfa goniffer a Llyn Brianne.
|