219 CRAIG DDU
CYFEIRNOD GRID: SN 752471
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 695.70
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria, a leolir o fewn cyn-Gwmwd
Malláen yng Nghantref Mawr a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol
tan 1284 ac a gadwodd i raddau helaeth systemau deiliadaeth brodorol trwy'r
cyfnod canoloesol; fe'i lleolir hefyd o fewn plwyf eglwysig Cilycwm. Mae'n
bosibl ei bod yn rhan o faenor Nant-y-bai/Plasty Ystrad-ffin, perchenogaeth
y mae'n bosibl bod yr enw Allt Maesymeddygon ar lethrau dwyreiniol yr
ardal yn tarddu ohoni. Fel maenor ucheldirol, mae'n debyg y câi Nant-y-bai
ei rhedeg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwnâi eu gwaith yn bennaf â phori
anifeiliaid ar borfeydd mynydd, ac ymddengys ei fod yn dir agored ar y
cyfan yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw, ac fe'i dangosir
fel porfa agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf. Mae tystiolaeth ffisegol
o glostiroedd blaenorol yn bodoli, fodd bynnag, a cheir systemau caeau
creiriol o'r Oes Efydd a'r cyfnod Ôl-Ganoloesol cynnar. Mewn cysylltiad
â'r cyfnod Ôl-Ganoloesol cynnar ceir y cwt/tþ hir sy'n nodweddiadol o
aneddiadau yn ucheldiroedd de-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod trawsnewidiol
hwn (Sambrook and Ramsey, 1999). Nid oes unrhyw aneddiadau diweddar yn
yr ardal, ond mae'r argae ar gyfer cronfa ddðr Llyn Brianne, a adeiladwyd
ar gwr gogleddol yr ardal yn ystod y 1960au, wedi cael effaith fawr ar
y dirwedd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Craig Ddu yn cynnwys rhostir agored. Fe'i lleolir
rhwng dyffryn Tywi uchaf a dyffryn Gwenffrwd uchaf. Mae llethrau creigiog
serth y ddwy afon hyn yn ffurfio ffiniau dwyreiniol a deheuol yr ardal
hon. Mae llethrau'r dyffrynnoedd yn codi o 130 m fwy neu lai i dros 350
m. Mae gweddill yr ardal yn cynnwys llwyfandir tonnog rhwng 350 m a 420
m. Ar wahân i goetir collddail hynafol ar rai o lethrau'r dyffrynnoedd,
a ffensys gwifrau achlysurol, mae'r ardal gyfan yn un o rostir agored
cwbl arw â dyddodion mawn mewn pantiau uchel.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymestyn yn ôl i'r cyfnodau
cynharaf, a cheir maen hir o'r Oes Efydd, system gaeau gynhanesyddol bosibl,
a chwt/tþ hir a system gaeau o'r cyfnod Ôl-Ganoloesol cynnar.
I bob pwrpas nid oes unrhyw adeiladau sy'n sefyll ac nid
yw'r un ohonynt yn nodweddiadol; fodd bynnag, mae argae Llyn Brianne sy'n
dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn haeddu sylw.
Mae'r tir ffermio yng ngwaelod y dyffrynnoedd a'r blanhigfa
goniffer i'r gogledd yn gosod ffiniau pendant i'r ardal hon.
|