Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

217 CWM-Y-RHAEADR

CYFEIRNOD GRID: SN 765435
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 246.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach ar lethr ddwyreiniol serth Mynydd Malláen, a leolir o fewn cyn-Gwmwd Malláen yng Nghantref Mawr a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284, ac a gadwodd i raddau helaeth systemau deiliadaeth brodorol trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Fe'i lleolir hefyd o fewn plwyf eglwysig Cilycwm a all berthyn i gyfnod diweddarach yn yr Oesoedd Canol yn y 14eg ganrif (Ludlow 1998). Nid oes gan yr ardal hon fawr ddim anheddiadau cyfoes, sy'n adlewyrchu'r defnydd a wneid ohoni yn hanesyddol; fodd bynnag, mae'n bosibl bod yr enw 'Dinas' yn cynrychioli bryngaer o'r Oes Haearn yr ymddengys nad oes unrhyw dystiolaeth ffisegol ohoni. Dangosir yr ardal hon fel porfeydd agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf ac mae'n dal heb ei hamgáu i raddau helaeth, ac mae'r ffaith bod corlan yn bresennol yn tystio bod yr ardal wedi'i defnyddio at ddibenion bugeiliol yn bennaf. Mae'r ffermydd a'r clostiroedd sy'n bodoli yn ymwneud yn bennaf â phobl yn tresmasu ar yr hyn a oedd ar un adeg yn dir agored yn y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ceir cyn-fwynglawdd plwm bach ar yr ymyl ddwyreiniol, y mae'n bosibl iddo gael ei sefydlu yn gynnar. Roedd pobl yn cloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, gyda'r goron yn cymryd yr 'unfed droedfedd ar ddeg' fel treth (Rees 1968), ond roedd y cloddio wedi dod i ben i raddau helaeth erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ar ddiwedd yr 20fed ganrif plannwyd planhigfeydd coniffer dros rannau helaeth o'r ardal o dan y Comisiwn Coedwigaeth (fel yr oedd yr adeg honno).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal gymeriad hon ar lethrau serth dyffryn Tywi a'i hisafonydd. Mae'r ardal hon rhwng 140 m a thros 300 m o uchder. Ar wahân i ychydig o goetir collddail ar y llethrau isaf, rhywfaint o rostir agored ar lethrau serth a hen fferm fach - Cwm-y-Rhaeadr - a rhai caeau cyfagos, mae planhigfeydd coniffer a blannwyd yn yr 20fed ganrif yn gorchuddio'r ardal gyfan. Sefydlwyd y mwyafrif o'r planhigfeydd hyn ar rostir agored ar lethrau serth y dyffryn. Ceir yr unig eithriad i hyn yng Nghwm-y-Rhaeadr ac o'i amgylch lle y plannwyd conifferau dros gaeau.

Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd, ac mae wedi'i chyfyngu i safle'r fryngaer bosibl o'r Oes Haearn, y mwynglawdd plwm a'r adeiladau.

Nid yw'r un o'r adeiladau'n nodweddiadol, ac maent yn cynnwys bythynnod a ffermydd o'r 19eg ganrif, corlan a thyrau dðr o'r 20fed ganrif.

Ardal hynod ydyw, ac mae'n gwrthgyferbynnu â'r rhostir agored i'r gorllewin a'r tir ffermio amgaeëdig i'r de, i'r gogledd ac i'r dwyrain.