|
206 LLANGADOG
CYFEIRNOD GRID: SN 698283
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35.32
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach sy'n cyfateb i ardal adeiledig Llangadog, anheddiad sy'n dyddio
o'r cyfnod Canoloesol. Dyma safle cymuned eglwysig bosibl sy'n rhagflaenu'r
Goresgyniad a leolid yn ôl pob tebyg ar safle'r eglwys bresennol, sef
eglwys Cadog Sant. Mae'n bosibl bod yna gyfeiriad at yr eglwys yn Llyfr
Llandaf sy'n rhagflaenu'r Goresgyniad (Soulsby, 1983, 169). Fodd bynnag,
bwriwyd amheuaeth ar yr honiad bod yr eglwys wedi'i chysegru i Gadog yn
wreiddiol, am mai ffigur secwlar oedd Cadog y disodlodd ei enw Dewi Sant
yr oedd yr eglwys wedi'i chysegru iddo'n wreiddiol (Yates 1973, 58). Mae
hyn yn awgrymu bod cysylltiad cryf wedi'i ffurfio ag Eglwys Gadeiriol
Tyddewi erbyn diwedd y 13eg ganrif pan oedd patria Llangadog ym meddiant
yr Esgobion. Hefyd lleolir Llangadog ddwy filltir yn unig i'r gogledd
o Lys Brychan (Ardal 225), sef un o'r unig dri safle yn Sir Gaerfyrddin
yr awgrymir eu bod yn safleoedd filâu Rhufeinig (Jarrett 1962), ac mae'n
bosibl bod y pwys y mae'n rhaid ei fod wedi'i roi ar y safle ac ar y lleoliad
wedi parhau yr un mor fawr i mewn i'r cyfnod ôl-Rufeinig. Ar ben hynny,
mae'n bosibl bod system o ffiniau o amgylch eglwys y plwyf yn cadw llinell
llan fawr (Sambrook and Page 1995, 5). Daeth yr ardal yn rhan o gwmwd
Perfedd yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd, ac eithrio Iscennen, gan
yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz
Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan
ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth
Llanymddyfri ond cafwyd cyfnodau trwy gydol y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif
pan fu Cantref Bychan dan reolaeth y Cymry. Sefydlwyd castell mwnt a beili,
fel rhan o ymgyrch wreiddiol yr Eingl-Normaniaid yn ôl pob tebyg, yng
Nghastell Meurig (Ardal 235) ryw 1.5km i'r de-ddwyrain o'r eglwys. Fe'i
cipiwyd 'trwy ddefnyddio catapyltau a ffyn tafl' gan y Tywysog Maelgwn
ap Rhys ym 1203 (Jones 1952, 82) ac mae'n bosibl nas defnyddiwyd ar ôl
hynny; sut bynnag, ymddengys na ddylanwadodd ar unrhyw anheddiad dinesig,
am fod y dref wedi deillio o'r gymuned eglwysig fach dybiedig. Symbylwyd
ei datblygiad gan Esgobion Tyddewi a roddodd farchnad a ffair flynyddol
i'r dref ym 1281, ac a sefydlodd goleg yn yr eglwys ar gyfer codwr canu
a 21 o ganoniaid ym 1283 (Soulsby 1983, 169). Fodd bynnag ni pharodd y
coleg yn hir, ac fe'i trosglwyddwyd i Abergwili ym 1287, a mynegwyd amheuon
ynghylch a gyflawnwyd y bwriad erioed (Knight 1919, 12-12), er y dywedid
bod olion adeiladau i'r gogledd o'r eglwys a welwyd ym 1855 yn perthyn
i'r coleg, a chofnodwyd canoniaid ym 1289 (Lewis 1937, 237). Cofnodwyd
33 o fwrdeisiaid a 8 tenant arall ym 1326 (Soulsby 1983, 169). Pan oedd
yn ei hanterth cynhaliai Llangadog farchnad wythnosol a saith ffair flynyddol,
a gynhelid yn y fynwent yn ôl George Owen ym 1601 (Sambrook and Page 1995,
22). Fodd bynnag, nid oes iddo fawr ddim hanes wedi'i gofnodi ar ôl hynny
ac ymddengys iddi weithredu fel canolfan leol fach, er bod ganddi dafarn
cerbydau, ac na thyfodd y tu hwnt i'w ffiniau Canoloesol. Mae datblygiadau
diweddar yn cynnwys teras, sef Ashfield Row, a adeiladwyd tua 1839 ar
yr A40(T)/hen ffordd dyrpeg i'r gorllewin o Afon Tywi, a oedd wedi'i chysylltu
â'r dref gan bont (Bont-ar-Dywi), a ailadeiladwyd ym 1819, a datblygiadau
ysbeidiol gan gynnwys yr orsaf reilffordd, a agorwyd gan Gwmni Rheilffordd
a Dociau Llanelli ym 1858 a rhan olaf llinell Gorllewin Cymru'r LNWR (Gabb,
1977, 76), a hefyd yr hufenfa yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif sydd
bellach yn darparu prif adnodd economaidd y gymuned.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae i Langadog gymeriad trefol yn y bôn ac mae'n cynnwys craidd hanesyddol
yr anheddiad, a leolir ar deras rhwng afon Bran ac afon Sawdde ychydig
i fyny'r afon o'u cymer ag Afon Tywi, ynghyd â datblygiad llinellol i'r
de o bont Bont-ar-Dywi. Mae dwy isffordd oddi ar yr A4069, yn arwain o'r
Mynydd Du i Lanymddyfri, yn cyfarfod yn y dref. Mae'r A40(T) yn rhedeg
o'r dwyrain i'r gorllewin ar yr ochr gyferbyn i Afon Tywi. Mae Llangadog
wedi'i chanoli ar eglwys Cadog Sant sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol, Stryd
yr Eglwys a 'sgwâr' fach, ac nid yw'n fwy na phentref o ran ei maint.
Fodd bynnag mae'n bosibl olrhain lleiniau o dir bwrdais ar y naill ochr
a'r llall i Stryd yr Eglwys ar fap degwm Llangadog 1839. Erbyn hyn mae
anheddau trillawr mawreddog yn y dull Sioraidd, a'r tafarn cerbydau ar
y sgwâr, yn rhoi cymeriad trefol i'r anheddiad. At ei gilydd mae'r anheddau
yn Stryd yr Eglwys yn fythynnod teras deulawr, wedi'u hadeiladu o gerrig
ac yn dyddio o'r 19eg ganrif. Lleolir 'filâu' a chapeli sy'n dyddio o
ddiwedd y 19eg ganrif ar gyrion y craidd hanesyddol mewn datblygiad llinellol
gwasgaredig ar hyd yr A4069 i'r gogledd, i'r de ac i'r dwyrain. Lleolir
datblygiad eilradd bach yn dyddio o'r 19eg ganrif i'r gorllewin o'r dref
sydd wedi'i ganoli ar dafarndy, yr orsaf reilffordd, ac Ashfield Row ar
yr A40(T). Erbyn hyn mae'r tir o'r craidd hanesyddol i'r orsaf reilffordd
bron i gyd wedi'i orchuddio gan hufenfa fawr a godwyd ar ôl yr Ail Ryfel
Byd ac unedau diwydiannol ysgafn mwy diweddar. Cyfyngir y tai a adeiladwyd
yn yr 20fed ganrif i ddatblygiadau o ystadau bach, ac unedau unigol i'r
dwyrain ac i'r de-ddwyrain o'r craidd hanesyddol.
Mae'r anheddau modern hyn wedi'u hadeiladu o friciau neu
goncrid ac maent yn gwrthgyferbynnu â'r tai o gerrig yn y craidd hanesyddol
a'r datblygiad llinellol yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae'r archeoleg a
gofnodwyd wedi'i chyfyngu i'r eglwys a'r fynwent a chrug crwn posibl o'r
Oes Efydd, tra bod safle brwydr wedi'i gofnodi mewn enw lle o bosibl.
Ceir 8 adeilad rhestredig o fewn y dref gan gynnwys eglwys
Cadog Sant sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol (rhestredig Gradd B) a thðr
sy'n dirnod. At ei gilydd mae'r gweddill yn adeiladau Ôl-Ganoloesol, rhestredig
Gradd II ac maent yn cynnwys y ficerdy, y dafarn cerbydau, Bont-ar-Dywi
a thai preifat.
Mae adeiladau eraill yn cynnwys capeli anghydffurfiol,
tollty ar yr A40(T) a chyn-efail. Mae Llangadog yn ardal gymeriad nodweddiadol,
ac mae gwrthgyferbyniad cryf rhyngddi â'r tir ffermio amgaeëdig cyfagos,
ac â'r tir comin agored a leolir i'r dwyrain.
|