|
194 ALLT PANT MAWR
CYFEIRNOD GRID: SN 561195
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 294.10
Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd gymharol fach sy'n ymestyn at ei gilydd dros lethr sy'n
graddol ddisgyn i'r de o Afon Tywi. Fe'i lleolir o fewn plwyfi Llanarthne
a Llanfihangel Aberbythych yn rhan ganolog cwmwd Iscennen a arhosodd,
yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle'r oedd wedi'i leoli, yn annibynnol
mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd tan 1284 pan gaffaelwyd hi gan John
Giffard. Ym 1340 daeth yn rhan o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi).
Mae Rhydarwen, ffermdy a leolir yng nghanol yr ardal, yn perthyn i'r cyfnod
Canoloesol (Jones 1987, 171), ac mae'n bosibl bod y patrwm o gaeau bach
islaw llethrau coediog Allt Pant Mawr wedi'i sefydlu cyn y cyfnod Ôl?Ganoloesol.
Yn weledol, coronir pen gorllewinol yr ardal gan Dðr Paxton, sef ffoli
a adeiladwyd ar gyfer ystad Middleton o fewn Ardal 188. Mae'r B4300 ar
hyd ochr ddeheuol dyffryn Tywi, a oedd wedi'i hadeiladu erbyn dechrau'r
19eg ganrif, yn mynd trwy'r ardal hon. Plannwyd conifferau ar lethrau
uchaf Allt Pant Mawr tua diwedd yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad hon, a leolir ar ochr ddeheuol dyffryn Tywi,
yn cynnwys llethrau serth a thra choediog sy'n wynebu'r gogledd; o dan
y llethrau hyn ceir ysgafell o dir ffermio a choetir sy'n rhedeg i lawr
at orlifdir Afon Tywi. O Afon Tywi ar 20 m OD mae'r tir yn codi i dros
150 m yn y pen deheuol iddi. Mae'r coetir ar y llethrau serth yn gymysgedd
o blanhigfeydd coniffer a choed collddail. Amgaeir y tir ar lai o oleddf,
sy'n gorwedd yng nghysgod y llethr serth, gan system o gaeau rheolaidd
bach sydd â thueddiad cryf i ymestyn o'r gogledd i'r de, i lawr y llethr.
Mae'n bosibl bod y caeau hyn wedi'u sefydlu'n gynnar. Cloddiau pridd a
gwrychoedd sy'n nodi ffiniau'r caeau. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio
o'r rhai sydd mewn cyflwr da i'r rhai sydd wedi tyfu'n wyllt ac sy'n lled-adfeiliedig.
Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y gwrychoedd terfyn. Mae coed
gwrych nodweddiadol yn gyffredin. Mae rhan o'r tir yn borfa wedi'i gwella,
ond mae llawer o dir brwynog heb ei gwella, ac mae coetir prysglog wedi
ymestyn i rai caeau blaenorol. Mae'r nodwedd olaf hon ar y cyd â'r coed
gwrych nodweddiadol a'r coed llydanddail yn rhoi golwg dra choediog i'r
ardal. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd bach gwasgaredig, tyddynnod,
bythynnod ac anheddau eraill ar hyd y B4300.
Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd o fewn yr ardal
hon sydd at ei gilydd ar oleddf, ac mae wedi'i chyfyngu i dwmpath llosg,
man darganfod cynhanesyddol a chwareli Ôl-Ganoloesol.
Mae adeiladau nodweddiadol yn cynnwys Rhydarwen, sef tanoloesol
rhestredig Gradd II*, 'adeilad cadarn' ac iddo dyred grisiau yn y ddeupen
a murlun yn dyddio o'r 16eg ganrif (Jones 1987, 171), a newidiwyd yn y
18fed ganrif. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau fferm yn perthyn i'r 19eg ganrif,
mae iddynt ddeulawr a thoeau llechi ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig.
Maent yn y traddodiad brodorol, er y ceir rhai yn y dull Sioraidd.
Mae'r ardal hon yn un hynod, ac mae ei choetiroedd helaeth
iawn, ei system o gaeau yn ymestyn o'r gogledd i'r de a maintioli bach
ei ffermydd a'i hadeiladau yn ei gosod ar wahân i'w chymdogion.
|