Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

193 GELLI AUR

CYFEIRNOD GRID: SN 597199
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 385.90

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach ar dir sy'n graddol ddisgyn i'r de o Afon Tywi. Mae'n gydamserol â hanner gogleddol plwyf Llanfihangel Aberbythych ac at ei gilydd mae'n cynnwys Parc Gelli Aur, tirlun ystad yn perthyn i'r 17eg ganrif hyd at y 19eg ganrif. Mae'n ymestyn dros ran ganolog cwmwd Iscennen a arhosodd, yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle y'i lleolid, yn annibynnol mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd tan 1284 pan gaffaelwyd hi gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn rhan o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Mae gan eglwys plwyf Llanfihangel Aberbythych, sef eglwys Sant Mihangel, fynwent gron ac mae'n bosibl iddi gael ei chysegru i Mihangel yn gynnar. Er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol bod eglwys yn y fan hon cyn dechrau'r 17eg ganrif, mae'r traddodiad ei bod wedi'i lleoli rywle arall yn wreiddiol yn amheus iawn (Ludlow 1998). Ymddengys fod tþ uchel ei statws wedi sefyll yn Gelli Aur o'r 16eg ganrif o dan y teulu Vaughan, sef Ieirll Cawdor yn ddiweddarach, ac wedyn o dan Ieirll Cawdor (Jones 1987, 84). Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw anheddiad nac o unrhyw annedd flaenorol o bwys (Jones, 1962, 259). Ailadeiladwyd y tþ ym 1754-7 ac eto ym 1826 ar ôl i'r tþ yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif gael ei ddymchwel yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag parhâi'r cyn-safle i gael ei ddefnyddio fel gardd lysiau â wal o'i hamgylch ac fe'i haddaswyd sawl gwaith hyd at y cyfnod presennol. Cynlluniwyd y tþ newydd gan y pensaer Wyattville ac fe'i lleolid ar safle uwch a thua chilomedr o safleoedd y plastai cynharach (Whittle 1999). Roedd y teulu Vaughan yn arloeswyr ym maes amaethyddiaeth a choedwriaeth a chynhwysai ystad Gelli Aur, pan oedd ar ei hanterth, 50,000 o erwau a ymestynnai dros dde-orllewin Cymru (Jones 1962, 258). O dan reolaeth yr ystad, datblygwyd pentref Gelli Aur o amgylch eglwys Sant Mihangel, ac yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif, codwyd tai cyngor i'r gogledd. Defnyddiwyd tþ Gelli Aur gan Lu Awyr yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ym 1952 rhoddwyd y tþ a'r parc ar brydles i Gyngor Sir Gaerfyrddin a ddefnyddiodd y safle fel Coleg Amaethyddol (Jones 1987, 84); erbyn hyn mae'r adeiladau yn ffurfio is-goleg i Goleg Technoleg a Chelf (Darlunio Bywyd Gwyllt) Caerfyrddin, tra bod rhan o'r tiroedd wedi'i dynodi'n barc gwledig.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae craidd yr ardal hon, a leolir ar lethrau graddol sy'n wynebu'r gogledd rhwng 20 m a 180 m ar yr ochr ddeheuol i ddyffryn Tywi, yn cynnwys demên Gelli Aur. Gan fod llawer o gyn-barcdir Gelli Aur wedi dirywio erbyn hyn nes ei fod yn debyg o ran ei gymeriad i'r dirwedd oddi amgylch, mae'r ardal gymeriad hon ychydig yn fwy o faint na'r cyn-ddemên. Mae coed a blannwyd, terasau gardd a pharciau difyrrwch yn dyddio o'r 19eg ganrif, gan gynnwys gardd goed, wedi goroesi, ond plannwyd conifferau ar lawer o'r tiroedd a'r tir y tu allan i'r cyn-barcdir i'r de o'r plasty yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif. I'r de o'r plasty presennol, nodir safle'r hen blasty gan ardd â wal o'i hamgylch, llyn a chamlas. Mae'r demên wedi'i amgáu gan wal â morter arni, ond mae'r wal hon mewn cyflwr gwael erbyn hyn. Mae pentref Llanfihangel Aberbythych wedi'i leoli o fewn yr ardal hon. Pentref ystad ydyw yn ei hanfod, ac mae'r eglwys o ganol y 19eg ganrif, ysgol, anheddau a phorthordai a adeiladwyd mewn dull Gothig Tuduraidd Fictoraidd, ynghyd ag adeiladau eraill o eiddo'r ystad i ffwrdd o'r pentref yn rhoi llofnod pensaernïol nodweddiadol i'r ardal hon. I'r de o'r hen blasty mae'r darn o'r B4300 a sythwyd a'r ffordd syth sy'n arwain at Bont Cilsan ar draws Afon Tywi yn dystiolaeth o waith a wnaed gynt o ran rheoli'r ystad. Y tu allan i'r demên mae'r tir ffermio wedi'i amgáu'n gaeau bach-i-ganolig eu maint gan gloddiau pridd a gwrychoedd. Mae'r gwrychoedd yn cynnwys coed gwrych nodweddiadol ac mae'r coed hyn ynghyd â chlystyrau bach o goed yn ymestyn yr olwg barcdirol sydd i Gelli Aur y tu hwnt i'r cyn-ddemên. Mae datblygiadau modern wedi'u cyfyngu i anheddau gwasgaredig yn agos at y B4300 ac i ystad o dai Cyngor o glapfwrdd.

Cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd yn bennaf gan nodweddion sy'n perthyn i'r ystad megis y parc a'r gerddi sy'n cynnwys parc ceirw a chwningar. Lleolir safle ffynnon gysegredig bosibl o fewn y cwrtil, yn ogystal â chwarel Ôl-Ganoloesol.

Mae tþ Gelli Aur, plasty mawr yn y dull 'Gothig-Tuduraidd', a godwyd ym 1826-32, yn rhestredig Gradd II*, a chyda'r gerddi mae wedi'i gofnodi fel PGW (Dy) 10 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999). {PREIFAT} Mae'r parc hefyd yn cynnwys porthordai a bwthyn. Lleolir tolldy y tu hwnt i'r parc i'r gorllewin, yn ogystal â'r pentref â'i adeiladau ystad nodweddiadol. Ailadeiladwyd eglwys Sant Mihangel yn gyfan gwbl tua 1850 yn ôl cynlluniau'r pensaer (Syr) George Gilbert Scott ac ar hyn o bryd nid yw'n rhestredig.

O fewn demên ystad Gelli Aur mae'r ardal gymeriad hon a oedd ar un adeg yn ardal hynod bellach yn debyg i ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, fe'i nodir ymhlith ei chymdogion gan lofnod adeiladu penodol, elfennau o'r ardd a'r parc sydd wedi goroesi a phlanhigfeydd coniffer