|
189 LLANARTHNE
CYFEIRNOD GRID: SN 526199
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 244.30
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o amgylch anheddiad cnewyllol Llanarthne, sydd fwy neu lai
yn gydamserol ag ardal a leolid o fewn cwmwd Iscennen ond a oedd yn eiddo
i Esgobion Tyddewi, yn ôl pob tebyg o ganlyniad i grant a roddwyd cyn
y Goresgyniad. Mae enwau caeau yn union i'r de-orllewin o'r pentref sy'n
cynnwys yr elfennau Henllan a Llandre yn awgrymu bod clas-eglwys yn yr
ardal, a nodwyd ôl cnwd hirsgwar sy'n perthyn i olynydd diweddarach. Mae'n
bosibl mai'r eglwys hon, neu'r eglwys bresennol sydd wedi'i chysegru i
Dewi Sant, yw'r 'Llanadneu' y cyfeirir ati fel un o eglwysi 'Dewi' yn
y gerdd 'Cerdd i Dewi' a luniwyd gan Gwynfardd Brycheiniog yn y 12fed
ganrif (Ludlow 1998). Nid oedd eglwys Dewi Sant yn eglwys blwyf yn ystod
y cofnod cyn y Goresgyniad. Roedd yn eiddo i'r Esgob fel un o brebendau'r
eglwys golegaidd yn Aberhonddu, ac fe'i neilltuwyd ar gyfer Prior yr Ysbytywyr
yn Lloegr gan Esgob Thomas Bek ym 1290 (Ludlow 1998). Parhaodd Iscennen,
yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle'r oedd wedi'i leoli, i fod yn
annibynnol mewn enw tan 1284 (Rees 1953, xv-xvi), a chadwyd systemau brodorol
o ddeiliadaeth. Felly mae'n debyg bod yr anheddiad cnewyllol presennol,
sy'n anffurfiol ac yn eithaf gwasgaredig, yn perthyn i'r cyfnod Ôl-Ganoloesol
a dim ond rhyw 10 annedd a ddarlunnir ar fap degwm Llanarthne o 1848.
Yn hanner gorllewinol yr ardal lleolir tair fferm yn dwyn yr enw 'Bremenda'
sy'n cynrychioli daliad mwy o faint a dorrwyd i fyny. Ymddengys i hyn
ddigwydd rhwng 1697 a 1789 pan oedd ym meddiant ystad Gelli Aur (Jones
1987, 13). Efallai mai'r ystad sy'n gyfrifol am y patrwm presennol o gaeau
rheolaidd mawr sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r 18fed ganrif. Âi prif linell
reilffordd Gorllewin Cymru'r LNWR trwy'r ardal ers llawer dydd, ac roedd
gorsaf yn Llanarthne. Fe'i hagorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni
Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1855 (Gabb, 1977, 76), a symbylodd ragor
o ddatblygu, er bod tafarn y Golden Grove Arms wedi'i sefydlu eisoes o
dan nawdd yr ystad. Mae datblygu ar raddfa fach wedi parhau hyd at ddiwedd
yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir pentref ac ardal dirwedd hanesyddol Llanarthne ar deras sy'n
graddol ddisgyn ar ochr ddeheuol Afon Tywi. Mae ymyl ogleddol yr ardal
yn gorwedd ar lefel o 20 m, ychydig o fetrau yn unig uwchben gorlifdir
Afon Tywi, tra bod y ffin ddeheuol, yn erbyn llethr serth y dyffryn yn
codi i uchder o 30 m - 40 m. Mae'r ardal wedi'i chanoli ar bentref Llanarthne.
Mae elfennau hanesyddol y pentref erbyn hyn yn cynnwys yr eglwys Ganoloesol
a dau dafarn yn dyddio o'r 19eg ganrif. O amgylch y craidd hanesyddol
ceir datblygiadau tai a godwyd ar ôl y rhyfel, ar ddiwedd yr 20fed ganrif
yn bennaf ac mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau, ac mae hyn yn cynnwys
ystad o dai cyngor. Saif y pentref mewn tirwedd, sy'n perthyn i'r 18fed
ganrif yn ôl pob tebyg, sy'n cynnwys caeau canolig-mawr o borfa fras wedi'i
gwella a ffermydd gwasgaredig. Mae cloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pennau
i'w gweld ym mhob man. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, a cheir coed nodweddiadol
yn tyfu mewn llawer ohonynt. Nid oes fawr ddim coetir. Lleolir chwarel
nas defnyddir i'r gorllewin o'r ardal hon. Mae'r B4300 a llinell reilffordd
adawedig y LNWR yn rhedeg trwy'r ardal.
Cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd gan safle'r clas/capel
ac eglwys bresennol Dewi sant, sy'n rhestredig Gradd B. Mae hefyd faen
hir posibl o'r Oes Efydd, ffynnon sanctaidd bosibl, safle melin bannu
ac odyn bosibl.
Mae nifer o adeiladau nodweddiadol, gan gynnwys gefail
restredig Gradd II. Mae Bremenda-ucha, Bremenda-ganol a Bremenda-issa
ynn 'ffermdai helaeth o'r math gorau', a newidiwyd lawer yng nghanol y
19eg ganrif (Jones 1987, 13). Yn gyffredinol mae'r ffermdai wedi'u hadeiladu
o gerrig ac iddynt doeau llechi a dau lawr; maent yn dyddio o ddiwedd
y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac maent yn y traddodiad Sioraidd boneddigaidd
yn hytrach na'r traddodiad brodorol, er bod enghreifftiau o ffermdai yn
y traddodiad brodorol i'w cael. Ar ffermydd mwy o faint mae yna duedd
i'r tai allan o gerrig sy'n dyddio o'r 19eg ganrif fod wedi'u cynllunio'n
ffurfiol, ond nid yw'r duedd hon mor gryf ar ffermydd llai o faint . Mae
gan y mwyafrif o ffermydd adeiladau fferm modern mawr. Mae adeiladau eraill
yn cynnwys pont, dau dafarn a dau gapel. Mae'r orsaf reilffordd wedi mynd.
Nid yw'n hawdd diffinio ardal dirwedd hanesyddol Llanarthne
am ei bod yn rhannu llawer o elfennau tirwedd hanesyddol â'i chymdogion.
Fodd bynnag, i'r de mae llethr serth a choediog dyffryn Tywi yn darparu
border gweddol bendant rhwng yr ardal hon a'i chymdogion. I'r gogledd
mae gorlifdir Afon Tywi yn debyg iawn i'r ardal ar lawer cyfrif. Yn y
fan hon ceir ardal drawsnewidiol yn hytrach na border pendant.
|