180 GORLIFDIR LLANW TYWI
CYFEIRNOD GRID: SN 399147
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 364.80
Cefndir Hanesyddol
Ffurfiwyd tirwedd y gorlifdir llawn ar y naill ochr a'r llall i Afon Tywi
mewn nifer o gyfnodau, er bod y rhan fwyaf ohoni - yn ei ffurf bresennol
- yn gymharol ddiweddar. Fodd bynnag, ymddengys fod cwrs presennol yr
afon yn hanner gogleddol yr ardal wedi aros yn weddol gyson ers o leiaf
y cyfnod Canoloesol, pan orweddai glan orllewinol o fewn Arglwyddiaethau
Caerfyrddin a Llansteffan ac roedd y lan ddwyreiniol yn perthyn i Arglwyddiaeth
Cydweli (Rees 1932). Crybwyllir sawl ardal o forfa heli mewn adroddiadau
cyfoes, pan y'i delid yn uniongyrchol o'r goron fel tir comin ar gyfer
pori tymhorol, fel y dengys yr enwau 'Morfa Brenin' a 'King and Queen's
Marsh' (James 1980, 42-44). Lleolid darn o dir comin i'r de o'r ardal
ym Morfa Uchaf, ger Glanyfferi.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae gorlifdir llanw Afon Tywi yn ymestyn o Lansteffan i'r de i Gaerfyrddin
yn y gogledd, pellter o ryw 10 km. Mae'r tir yn yr ardal hon yn cynnwys
yn bennaf siltiau a thywodydd a gronnwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn dra
amlwg yn rhan ddeheuol yr ardal lle na cheir ond traeth Llansteffan a
morfa heli. Ymhellach i fyny'r afon mae'r dyddodiadau'n hþn, ac maent
yn ffurfio morfa; fodd bynnag, maent yn cael eu boddi gan y llanw yn aml.
Nid ymchwiliwyd i'r hanes sy'n gysylltiedig â draenio ac adennill y tir
yn y fan hon; fodd bynnag, i'r de o Gaerfyrddin lle y mae dyffryn yn ymagor
yn orlifdir sydd bron yn 1 km o led, mae ffosydd draenio a ffensys gwifrau'n
rhannu'r ardal yn borfa dymhorol arw. Ar wahân i ardal o amgylch Pil-roath
a Choed Marsh, nid ymddengys fod unrhyw ymdrech wedi'i gwneud ar y cyd
i ddraenio'r ardal trwy adeiladu amddiffynfeydd arfordirol, ac mae diffyg
clostiroedd neu unrhyw dystiolaeth ffisegol o systemau draenio ffurfiol
y gellir ei gweld ar unwaith ee. naill ai gafael, neu gefnen a rhych,
yn hanner deheuol yr ardal, yn awgrymu mai ardal o forfa a thywod a fu
erioed.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i'r cyfryw nodweddion
arforol megis maglau pysgod, safleoedd llongddrylliadau ac arwyddion mordwyo
yn dyddio o'r cyfnod Ôl-Ganoloesol. Fodd bynnag, cofnodwyd man darganfod
yn dyddio o'r Oes Efydd gerllaw Llansteffan.
Mae adeiladau wedi'u cyfyngu i odyn calch Ôl-Ganoloesol.
Ardal ddiffiniedig ydyw a leolir rhwng y Marc Penllanw
a'r tir amgaeëdig sy'n codi i'r dwyrain a'r gorllewin. Dim ond i'r gogledd,
lle y mae'r ardal yn ymgyfuno â'r morfa llanw islaw tref Caerfyrddin,
y mae'r ffin yn aneglur.
|